Diploma Lefel 3 VTCT mewn Tylino

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA55023
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 – 21 mis
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Prif ganlyniad Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch Tylino yw cadarnhau eich gallu mewn swydd therapydd harddwch tylino. Mae'r holl unedau yn y cymhwyster hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â swydd benodol therapydd harddwch tylino.

Mae’r Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch Tylino yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn cadarnhau eich cymhwysedd fel therapydd harddwch tylino. Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith brentisiaeth, fodd bynnag mae rhai o’r triniaethau a wneir yn y cymhwyster hwn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau oedran mewn rhai rhanbarthau, lle mae trwyddedu triniaeth arbennig cyngor lleol yn berthnasol. Mae cyflogwyr yn ystyriol o natur sensitif y gwasanaethau ac oherwydd hyn, efallai mai nifer cyfyngedig o brentisiaethau harddwch tylino sydd ar gael. Am y rheswm hwnnw, mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn cynnwys y Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch Tylino ar wahân i brentisiaethau. Maent yn gallu cynnig y cwrs hwn mewn amgylchedd sba go iawn, ac yn gallu darparu’r cyfle i chi ddysgu sgiliau harddwch tylino a gweithio gyda chleientiaid go iawn. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyfle i ddysgu mewn amgylchedd gwaith go iawn, yn enwedig gan fod y cymhwyster hwn yn arwain at weithio mewn sector sy’n canolbwyntio ar gleientiaid a darparu gwasanaeth.

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei lunio i ddysgwr 16 oed neu hŷn, a bydd yn eich cynorthwyo i gael cyflogaeth fel therapydd harddwch tylino, gan fod unedau’r cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a gwybodaeth a fydd eu hangen ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddechrau ar y cwrs os ydych wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch yn y gorffennol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.

Dyma gymhwyster galwedigaethol sy’n cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch tylino, gan gynnwys unedau gorfodol sy’n cynnwys y canlynol: tylino’r corff, tylino pen Indiaidd, a thylino gan ddefnyddio olewon wedi’u cymysgu’n barod, therapi cerrig, monitro dulliau gweithredu yn y salon a chyfrannu at ddigwyddiad hyrwyddo.

Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i feithrin eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau dewisol therapi harddwch, sy’n cynnwys: gwasanaethau colur brwsh aer, cwyro mannau preifat y corff, estyniadau sengl blew’r amrannau, lliw haul UV, rhoi lliw haul ffug ar eich hun, triniaethau trydanol i’r corff. Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi’r hyblygrwydd i chi feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swydd therapydd harddwch tylino.

Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a gofal cleientiaid. Byddwch chi’n datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol tylino, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau gwahanol. Byddwch chi’n meithrin sgiliau rhyngbersonol hefyd, a fydd yn eich galluogi chi i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid.
Bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig gyda chyflogwr addas yn y sector Harddwch
Dyma un o ddau gymhwyster Lefel 3 VTCT mewn therapi harddwch tylino. Er bod y ddau gymhwyster yn golygu eich bod yn gymwys i fod yn therapydd harddwch tylino, mae’r cymhwyster hwn yn gofyn eich bod yn gweithio mewn salon fasnachol lle mae asesiadau yn cael eu gweithredu ar gleientiaid go iawn sy’n talu, yn unol ag amseroedd gwasanaethau masnachol.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch tylino. Byddwch chi’n gymwys i ymuno â chymdeithas broffesiynol a chael yswiriant fel therapydd harddwch tylino hefyd. Mae cyfleoedd gyrfa fel therapydd harddwch tylino yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:

– Gweithio mewn salonau harddwch
– Gweithio mewn sbâu dydd a chyrchfannau
– Gweithio yn annibynnol/hunangyflogedig/symudol/yn y cartref
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?