main logo

Diploma Lefel 3 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA55024
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 – 21 mis
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn cadarnhau eich cymhwysedd fel technegydd ewinedd. Mae’r cymhwyster yn rhan o fframwaith brentisiaeth, fodd bynnag mae’n cael ei gynnig hefyd ar wahân i brentisiaethau gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant sy’n gallu cynnig y cwrs hwn mewn amgylchedd salon go iawn, ac yn gallu darparu’r cyfle i chi ddysgu sgiliau technoleg ewinedd a gweithio gyda chleientiaid go iawn. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyfle i ddysgu mewn amgylchedd gwaith go iawn, yn enwedig gan fod y cymhwyster hwn yn arwain at weithio mewn sector sy’n canolbwyntio ar gleientiaid a darparu gwasanaeth.

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei lunio i ddysgwyr 16 oed neu hŷn, a bydd yn eich cynorthwyo i gael cyflogaeth fel technegydd ewinedd, gan fod unedau’r cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a gwybodaeth a fydd eu hangen ar gyfer y swydd hon.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel technegydd ewinedd gan gynnwys: gosod a chynnal ewinedd gan ddefnyddio gel, hylif a phowdr UV.

Byddwch hefyd yn meithrin eich dealltwriaeth a’ch sgiliau drwy ddewis nifer o unedau arbenigol dewisol sy’n cynnwys: dylunio a chreu celfyddyd ewinedd, dyluniadau brws aer, harddu’r ewinedd gyda ffeiliau trydan, wrapiau, hyrwyddo cynnyrch, a chyfrannu at effeithiolrwydd ariannol busnes. Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi’r cyfle i chi feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swydd technegydd ewinedd.

Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a gwybodaeth am gynnyrch i ewinedd. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gosod estyniadau ewinedd, gan ddefnyddio llawer o gynnyrch, offer a thechnegau amrywiol. Byddwch yn meithrin sgiliau rhyngbersonol hefyd, a fydd yn eich galluogi chi i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid.
Dyma un o ddau gymhwyster Lefel 3 VTCT mewn gwasanaethau ewinedd. Er bydd y ddau gymhwyster yn golygu eich bod yn gymwys i fod yn dechnegydd ewinedd, mae’r cymhwyster hwn yn gofyn eich bod yn gweithio mewn salon fasnachol lle mae asesiadau yn cael eu cynnal ar gleientiaid go iawn sy’n talu, yn unol ag amseroedd gwasanaethau masnachol.
Gallwch ddechrau ar y cwrs os ydych wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 mewn therapi harddwch yn y gorffennol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.

Hefyd, bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig gyda chyflogwr addas yn y sector Harddwch.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel technegydd ewinedd. Byddwch yn gymwys i ymuno â chymdeithas broffesiynol a chael yswiriant fel technegydd ewinedd hefyd. Mae cyfleoedd gyrfa fel technegydd ewinedd yn bodoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys:
– Gweithio ym maes ewinedd a harddwch masnachol
– Gweithio mewn stondin fasnachol / bar ewinedd
– Gweithio’n annibynnol / hunan-gyflogedig / symud o le i le / gweithio o adref
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?