main logo

Diploma Estynedig Lefel 3 City & Guilds mewn Technoleg Diwydiannau'r Tir (rhyddhau bloc annibynnol Gofal Tir)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01515
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 3 blynedd, gyda chyfnodau bloc rhyddhau o’r gwaith. Byddwch yn y coleg am naw bloc dros dair blynedd. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc, yn dod i gyfanswm o ddeuddeg wythnos, i’w cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
02 Dec 2024
Dyddiad Gorffen
26 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen hyfforddi peiriannau gofal tir wedi cael ei datblygu gan wneuthurwyr peiriannau blaenllaw ac arbenigwyr addysg peirianneg Coleg Cambria Llysfasi. Mae'r hyfforddiant hwn sydd wedi'i gymeradwyo gan y diwydiant wedi'i gynllunio i gefnogi gwerthwyr peiriannau gofal tir yn lleol ac ar draws y DU.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen yn y diwydiant Gofal Tir a pheirianneg diwydiannau'r tir. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethau a phrosesau gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i drwsio injans, systemau cerbydau, systemau trydanol, systemau hydrolig, a systemau electronig prawf. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut i drwsio systemau trawsyriant pŵer mecanyddol, trawsyriannau a chydwyr syncro-mesh, trawsyriannau symud pŵer, a thrawsyriannau hydrostatig neu hydro-fecanyddol (CVT). Byddwch hefyd yn dysgu sut i atgyweirio peiriannau torri gwair, peiriannau aredig neu ddrilio, peiriannau taenu a gofal cwsmeriaid a throsglwyddo a gosod peiriannau hefyd.

Mae’r cwrs yn cael ei addysgu’n bennaf drwy sesiynau ymarferol yn ein gweithdy o’r radd flaenaf, gan ddarlithwyr a hyfforddwyr a hyfforddwyd gan y diwydiant, gan ddefnyddio’r offer a pheiriannau diagnostig diweddaraf, gweithredu tractorau a gwaith maes, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch yn dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys sesiynau theori, gwaith unigol a gwaith grŵp, a thasgau ymarferol.

Bydd y cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddilyn cymwysterau ychwanegol fel Gyrru Tractor, Triniwr Telesgopig, Weldio, Olwynion Sgraffinio, ATV, Tryc Fforch godi, Gofal Cwsmeriaid, Gosod, Aer Dymheru a Thrin Oeryddion.
Cynhelir asesiadau yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bychain ac arholiadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af) a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 mewn Peirianneg Amaethyddol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Cyflogaeth mewn delwriaethau gofal tir ledled y DU
Peiriannydd amaethyddol, peiriannydd gwasanaethau’r maes, technegydd gweithdai, marchnata a gwerthu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?