main logo

Diploma Technegol Uwch lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP50237
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 2 flynedd llawn amser, 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg ac un diwrnod ar leoliad gwaith yn y diwydiant.
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
26 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i ddechrau gweithio yn niwydiant peirianneg peiriannau’r tir. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd, sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethau a phrosesau gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i drwsio injans, systemau cerbydau, systemau trydanol, systemau hydrolig, a phrofi systemau electronig. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut i drwsio systemau trawsyriant pŵer mecanyddol, trawsyriannau a chydwyr syncro-mesh, trawsyriannau symud pŵer, a thrawsyriannau hydrostatig neu hydro-fecanyddol (CVT). Byddwch hefyd yn dysgu sut i drwsio peiriannau aredig neu ddrilio, peiriannau chwistrellu, peiriannau cynaeafu cnydau porthi, a pheiriannau cynaeafu cnydau cyfunadwy neu wreiddgnydau, yn ogystal â thechnegau ffermio manwl gywir e.e. systemau arwain, mapio a thelemateg.

Gan ddefnyddio’r dechnoleg arloesol ddiweddaraf, sy’n cynnwys peiriannau ac offer
amaethyddol, byddwch yn meithrin y sgiliau a phrofiad i allu gwneud y swyddi canlynol:
Peiriannydd peiriannau’r tir
Gweithredwr peiriannau
Contractwr
Gyrrwr tractorau
Arddangoswr
Rheolwr peiriannau sefydlog
Gweithredwr chwistrellwr
Technegydd peiriannau
Mecanydd fferm
Gweithredwr peiriannau.

Caiff y rhain eu haddysgu’n bennaf drwy sesiynau ymarferol yn ein gweithdy o’r radd flaenaf, gan ddefnyddio’r offer a pheiriannau diagnostig diweddaraf, gweithredu tractorau a gwaith maes, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Mae ein partneriaethau cenedlaethol gyda gweithgynhyrchwyr peiriannau amaethyddol blaenllaw, fel AGCO, Massey Ferguson, Fendt, Valtra, Kubota a Kverneland i enwi rhai yn unig, yn ein galluogi i ddefnyddio technoleg a pheiriannau newydd yn ystod y cwrs.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio ein Canolfan Addysgu Amaethyddiaeth
pwrpasol, ymweliadau â sioeau’r diwydiant, cystadlaethau, darlithoedd, siaradwyr gwadd
ac arddangosiadau gan arbenigwyr y diwydiant, yn ogystal â defnyddio ein fferm weithredol
fasnachol amrywiol 400 Ha, gyda buches laeth, unedau ac academi gwartheg a defaid
ac ystod o goetir a choedwigaeth.

Bydd angen i chi gwblhau cyfnodau mewn lleoliadau gwaith trwy gydol y cwrs mewn busnes tir perthnasol hefyd. Mae’r lleoliadau gwaith hyn yn rhan annatod o’r cwrs. Maent yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau, yn ogystal â sefydlu cysylltiadau yn y diwydiant a gwella eich rhagolygon gwaith yn y dyfodol. Efallai cewch gyfle i deithio i Ewrop i ychwanegu at eich profiad hefyd.

Mae teithiau addysgiadol yn rhan bwysig o’r cwrs, lle bydd asesiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal.

Mae’r cymwysterau deddfwriaethol a sgiliau’n gallu cynnwys: cymorth cyntaf, gyrru tractorau, cerbydau adeiladu, trinwyr telesgopig, olwynion sgraffinio, chwistrellu plaladdwyr, cerbydau pob tir (ATV), sgiliau rhifedd, llythrennedd a TGCh.
Cynhelir asesiadau yn gyson drwy gydol y flwyddyn ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bychain, arholiadau, asesiad synoptig, cyflwyniadau a chyfnod llwyddiannus mewn lleoliad profiad gwaith.
5 TGAU gradd C/4 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af) a Mathemateg. Neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Peirianneg Amaethyddol

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gallai arwain at fynediad I gwrs lefel uwch.
Prentisiaethau gwaith neu gwrs addysg uwch/prifysgol cysylltiedig.

Peiriannydd peiriannau’r tir, gweithredwr peiriannau, contractwr, gyrrwr tractor, arddangoswr, rheolwr peiriannau sefydlog, gweithredwr chwistrellu, technegydd peiriannau, mecanydd fferm, gweithredwr peiriannau.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig I gael
rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?