main logo

NVQ Lefel 2 VTCT mewn Llwybrau i Drin Gwallt neu Therapi Harddwch gan gynnwys Ewinedd (19+)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01579
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Blwyddyn lawn, mis Medi tan fis Mehefin

Tridiau’r wythnos yn y coleg o 9am tan 4.30pm

Sesiynau gyda’r nos yn rheolaidd.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i ddysgwyr 19 oed a hŷn.

Y cymhwyster terfynol fydd naill ai:
Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Trin Gwallt
neu
Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Therapïau Harddwch ac Ewinedd

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dridiau’r wythnos.

Bydd unedau cyffredin y ddau gwrs yn cael eu cynnal gyda'I gilydd ac yna bydd y grŵp dysgwyr yn rhannu'n sesiynau ar gyfer pob un o'r llwybrau penodol.

Gwybodaeth ar gyfer y Diploma Lefel 2 NVQ mewn Trin Gwallt:
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer trin gwallt, ac mae’n cynnwys yr holl elfennau gofynnol sydd eu hangen I weithio’n effeithiol fel triniwr gwallt iau / steilydd gwallt iau.

Mae’n rhaid I ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol, sy’n cynnwys:

● Gosod a Thrin Gwallt
● Lliwio a Goleuo
● Ymgynghori
● Siampwio a Chyflyru’r Gwallt

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith yn rheolaidd yn y salon fasnachol yn Iâl, Salon Iâl, wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’r cwrs hwn.

Gwybodaeth ar gyfer Diploma Lefel 2 NVQ mewn Therapïau Harddwch ac Ewinedd:

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster ‘barod I weithio’ sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol I chi weithio'n gymwys fel Therapydd Harddwch ac Ewinedd. Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn sicrhau cyfrifoldeb I leihau risgiau I iechyd a diogelwch, hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol I gleientiaid, datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith, darparu triniaeth gofal croen yr wyneb, gwella ymddangosiad aeliau a blew, cynnal gwasanaethau cwyro a darparu triniaethau i’r traed a’r dwylo ac ewinedd gel.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys sesiynau theori ac arholiadau. Enghraifft o rai o’r pynciau y byddwch chi’n eu hastudio ydy; anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a gwerthu cynnyrch a gwasanaethau. Felly mae disgwyl y bydd dysgwyr yn astudio yn eu hamser eu hunain yn ychwanegol at y sesiynau sydd wedi’u hamserlennu yn y coleg, I gwblhau gwaith sy’n cael ei osod fel gwaith cartref.

Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn meithrin eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaethau I gwsmeriaid, eu gwybodaeth am gynaliadwyedd amgylcheddol a’u sgiliau masnachol. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar y rhain I gyd.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith yn rheolaidd yn ein salon harddwch a sba o’r radd flaenaf wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’r cwrs hwn

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt a Harddwch ac Ewinedd, bydd rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Mae’n rhaid I bob dysgwr gwblhau cyfnod lleoliad gwaith

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau I chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod angen cit a gwisg er mwyn gallu astudio’r cwrs hwn.
Mae gwaith cwrs yn cael ei wneud trwy asesu parhaus trwy arsylwi ymarferol, aseiniadau ac arholiadau.
Wedi cwblhau rhaglen ddysgu lefel 1 mewn Trin Gwallt / Harddwch yn llwyddiannus, neu 4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ i astudio’r cwrs hwn

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster lefel 2 yn llwyddiannus mewn maes galwedigaethol gwahanol hefyd yn cael eu hystyried.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau
glas yn eich arholiadau. Y gorau oll fydd eich graddau, po fwyaf o
opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at fynediad I gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu Therapi Harddwch neu Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?