main logo

Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapïau Cyflenwol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01560
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser sy’n cael ei gynnal o fis Medi i fis Mehefin

3 I 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9am tan 4.30
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel therapydd. Bydd yr uned yn y cymhwyster hwn yn ymdrin â’r holl sgiliau a gwybodaeth a fydd eu hangen ar gyfer y swydd hon. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

● Tylino’r corff
● Aromatherapi
● Adweitheg

Trwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r Anatomi a Ffisioleg berthnasol, Iechyd a Diogelwch, a gofal cleientiaid. Byddwch hefyd yn datblygu ystod o sgiliau technegol i’ch galluogi chi i ddarparu amrywiaeth o driniaethau uwch.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn ein salon Harddwch a Sba o’r radd flaenaf wrth astudio eu cymwysterau. Mae datblygu sgiliau cyflogadwyedd yn agwedd sylfaenol ar y cwrs hwn

Mae disgwyliad cryf y dylai myfyrwyr astudio'n annibynnol rhwng y sesiynau ar yr amserlen.

Yn ogystal â’r cymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Therapi Cyflenwol, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Rhaid I bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch y bydd eich amserlen yn cynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi dyddiadau I chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod angen cit a gwisg I allu astudio’r cwrs hwn.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus

Mae disgwyl I chi gwblhau gwaith cwrs a thechnegau ymarferol yn eich amser eich hunain.
Cwblhau rhaglen maes dysgu Therapi Harddwch Lefel 2 yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio yn y sector Therapïau Sba a Harddwch.

Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.

Mae cyfleoedd gyrfa ar gael drwy weithio mewn sbâu, clinigau, llongau mordeithiau, gwestai a salonau.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?