main logo

BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau a Mecanyddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00874
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Gradd Anrhydedd Baglor 3 blynedd, rhan-amser

Bydd gofyn I fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau o hunan-astudio a rhywfaint o amser ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal ag oriau a addysgir.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
19 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Wrth ddewis Gradd Sylfaen Cambria mewn Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu (wedi'i hachredu gan Brifysgol Abertawe) byddwch yn astudio sbectrwm eang o bynciau gweithgynhyrchu uwch a ddatblygwyd yn unol â gofynion cyflogwyr. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr a phrentisiaid uwch sy'n dymuno gwella rhagor ar eu gwybodaeth a symud ymlaen ym maes Peirianneg Gweithgynhyrchu Awyrennau.

Dyma nodweddion allweddol astudio'r radd hon yn Cambria:
• Mae’r modiwlau i gyd yn cael eu haddysgu gan diwtoriaid Peirianneg Cambria neu Brifysgol Abertawe sydd ag ystod eang o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd.
• Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes ledled Gogledd Cymru, gyda siaradwyr busnes gwadd, cyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio.
• Cyfleusterau ac adnoddau o safon ryngwladol yn y Ganolfan Brifysgol newydd ar gyfer Peirianneg ar safle Glannau Dyfrdwy.
• Cymysgedd o astudiaethau academaidd sy'n gysylltiedig â chymwysiadau galwedigaethol ymarferol ym mhob modiwl pwnc.
• Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, â'r myfyrwyr i gyd yn cael tiwtor personol ac yn gallu cael cymorth un i un.
• Darparwr llwybrau prentisiaeth profiadol.

Modiwlau:
Blwyddyn 1:
• Dysgu yn y Gwaith
• Dadansoddi Peirianneg 1
• Busnes, Rheoli ac Ansawdd
• Arferion Peirianneg Proffesiynol
• Gwyddor Peirianneg
• Gweithgynhyrchu Peirianneg
• Egwyddorion Trydanol ac Electronig

Blwyddyn 2:
• Prosiect Diwydiannol
• Dadansoddi Peirianneg 2
• Deinameg Hedfan
• Gweithgynhyrchu Uwch, CAM ac NDT
• Dadansoddi Diriant a Dynameg
• Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur
• Deunyddiau Peirianneg

Blwyddyn 3:
• Prosiect Ymchwil
• Rheoli Peirianneg
• Dylunio Peirianneg Uwch
• Aerodynameg
• Dadansoddi Elfennau Cyfyngedig
• Fframwaith Cyrff Awyrennau
• Awtomeiddio ac Optimeiddio Gweithgynhyrchu
• Peirianneg Systemau
• Deunyddiau Peirianneg Uwch
• Peirianneg Ddigidol

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i gyd-fynd â'ch anghenion unigol, ar yr amod ein bod yn gallu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a'n staff. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell. Sylwer, lle na ellir cyflawni lleoliadau gwaith am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy'n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd, gweithdai a dulliau ‘Dysgu Wyneb i Waered’.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau ac aseiniadau. Byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ynghylch lle i wella ar gyfer pob aseiniad ac arholiad. Mae lleoliadau gwaith yn ofynnol ar gyfer y modiwlau yn y gwaith. Treulir tua 1 wythnos y flwyddyn ar safle’r brifysgol yn Abertawe.
Mynediad Fd/BEng Awyrennau/Gweithgynhyrchu Uwch

Fd/BEng Blwyddyn 1

Cymwysterau Safon Uwch â graddau BBB gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg. Nid oes gofyniad penodol ar gyfer y trydydd cymhwyster Safon Uwch, ond mae un o’r pynciau canlynol yn cael eu ffafrio: Cemeg, Dylunio, TG/Cyfrifiadura, Mathemateg Bellach neu Fusnes/Economeg.
Cymhwyster HNC perthnasol (120 credyd, gweler y nodyn isod ar gyfer mynediad i Flwyddyn 2).
Gall myfyrwyr sydd â chymhwyster Lefel 3 BTEC gyda gradd Rhagoriaeth yn gyffredinol gan gynnwys rhagoriaeth yn y modiwl Mathemateg Bellach wneud cais hefyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr sefyll arholiad mynediad a llwyddo ynddo.

Fd/BEng Blwyddyn 2

Gallai myfyrwyr sydd â graddau modiwlau digon uchel* ymuno ag ail flwyddyn y rhaglen Fd/BEng. Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried ceisiadau fesul achos.

* – Fel arfer, graddau Rhagoriaeth gan gynnwys mathemateg.

BEng Blwyddyn 3

Bydd Gradd Sylfaen sydd â modiwlau tebyg iawn yn cael eu hystyried fesul achos gan Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria.

• Yn ogystal â hynny, mae’n rhaid bod gan bob ymgeisydd gradd C neu uwch mewn TGAU Iaith Saesneg a TGAU Mathemateg neu Rifedd.

Bydd Staff Academaidd Prifysgol Abertawe a Cambria yn ystyried fesul achos unrhyw asesiad o ddysgu blaenorol (fel dyfarniadau datblygiad proffesiynol neu ddyfarniadau sy’n seiliedig ar gyflogaeth) sydd ar lefel Addysg Uwch ond heb gael credydau AU.

Os hoffech wneud cais ar gyfer:

Y Cwrs BEng Awyrennau – chwilio am god cwrs LP00874
Y Cwrs BEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51321
Y Cwrs FdEng Gweithgynhyrchu Uwch – chwiliwch am god cwrs LP51320

Potensial i symud ymlaen i Radd Meistr mewn prifysgol o’ch dewis chi.

Dyma rai enghreifftiau o opsiynau gyrfa posibl yn niwydiant Peirianneg Awyrennau:
● Peiriannydd Dylunio
● Peirianneg Prosiect Awyrofod
● Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
● Peiriannydd Cymorth Peirianneg Gweithgynhyrchu Ochr Rheilffordd
● Peiriannydd Rheoli Ansawdd

Mae gyrfaoedd ym maes ehangach peirianneg hefyd yn bosibl gyda’r radd hon.
Ffioedd y cwrs £7500 y flwyddyn (FdEng)
Ffioedd y cwrs £9000 y flwyddyn (BEng)
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?