main logo

Lefel 3 Mynediad Cyfun i AU - Peirianneg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP05251
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dull dysgu cyfunol – 1 diwrnod llawn yn y coleg ar gyfer sesiynau a addysgir; deunydd arall a osodir o bell i’w gwblhau yn eich amser eich hun / ymarfer enghreifftiau ar adeg sy’n gyfleus i chi.

1 flwyddyn
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
23 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Peirianneg yn gymhwyster Lefel 3 sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr nad ydynt o reidrwydd wedi dilyn y llwybr cymwysterau traddodiadol ac sy'n dymuno symud ymlaen i ddysgu lefel uwch mewn Peirianneg, naill ai yn Cambria neu mewn prifysgol.

Os ydych yn ddysgwr aeddfed sy'n gweithio mewn maes Peirianneg ac eisiau symud ymlaen, yna bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i gael mynediad i'n rhaglenni Addysg Uwch yn llawer cyflymach na thrwy lwybr BTEC traddodiadol. Yna, efallai y byddwch hefyd yn gallu manteisio ar ein rhaglenni Gradd BEng (Anrh) rhan-amser sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Ar y llaw arall, os ydych am fynd i brifysgol i astudio Peirianneg, mae ein rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yn cael ei derbyn yn eang ledled y DU ar gyfer mynediad i Flwyddyn 1 nifer o raglenni BEng.

Mae cynnwys y cwrs wedi'i gynllunio i’ch darparu gyda'r wybodaeth dechnegol greiddiol sylfaenol sydd ei hangen arnoch mewn Peirianneg i'ch paratoi ar gyfer astudio lefel uwch. Mae'r pynciau'n eang ac yn cwmpasu llawer o wahanol agweddau ar Beirianneg, ond maent wedi'u seilio'n bennaf ar fathemateg, gwyddoniaeth fecanyddol a gwyddoniaeth drydanol. Ymdrinnir â gwybodaeth fathemategol sylfaenol Lefel 2 yn gyntaf, cyn symud ymlaen yn gyflym i Lefel 3. Byddwch hefyd yn dysgu am y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ysgrifennu a chyflwyno gwaith yn briodol ar lefel Addysg Uwch, a fydd yn arwain at gynnal ymchwiliad ar raddfa fechan ac ysgrifennu adroddiad.


Nodweddion allweddol astudio rhaglen Mynediad yn Cambria:
● Mae ein dull dysgu cyfunol yn sicrhau y gallwch astudio'n hyblyg I gyd-fynd â'ch swydd a'ch bywyd bob dydd.
● Addysgir pob modiwl gan ddarlithwyr Peirianneg, sydd I gyd yn meddu ar brofiad diwydiannol a gwybodaeth dechnegol helaeth.
● Byddwch yn dysgu yn ein Canolfan Brifysgol Peirianneg bwrpasol sy’n cynnwys cyfleusterau ac adnoddau o'r radd flaenaf.
● Cymorth rhagorol I fyfyrwyr, gyda phob myfyriwr yn cael tiwtor personol. Rydym yn deall y gall dychwelyd I astudio fod yn heriol a byddwn yn eich cefnogi'n llawn I gyflawni eich nodau.
● Llwybrau clir I ddatblygu eich astudiaethau ymhellach gyda Cambria drwy ein rhaglenni HNC a Gradd.
● Darparwr llwybrau prentisiaeth profiadol gyda chysylltiadau rhagorol â busnesau peirianneg ac arweinwyr busnes.

Modiwlau

Modiwlau Lefel 2
● Rhif (3 credyd)
● Algebra a Graffiau (3 credyd)

Modiwlau Lefel 3
● Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Mynediad I Addysg Uwch (3 credyd)
● Rhoi Cyflwyniadau Llafar (3 credyd)
● Hafaliadau, Geometreg, Trigonometreg, Calcwlws (3 credyd)
● Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (3 credyd)
● Gwyddor Deunyddiau (3 credyd)
● Gwyddoniaeth Fecanyddol (9 credyd)
● Egwyddorion Peirianneg (3 credyd)
● Cylched Cerrynt Union (3 credyd)
● Electromagnetedd a Chynhwysiant (3 credyd)
● Trydan Cerrynt (3 credyd)
● Mecaneg: Grymoedd/Mudiant Llinol (3 credyd)
● Technegau Algebraidd / Datrys Hafaliadau (3 credyd)
● Differiad (3 credyd)
● Integriad (3 credyd)
● Traethawd Estynedig (6 credyd)

Dolen I wefan y corff dyfarnu I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys a addysgir:
https://www.agored.cymru/Qualification-Guide/203
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau rhyngweithiol, gweithdai, sesiynau ymarferol a thechnegau ‘Dysgu Gwrthdro’. Bydd disgwyl i chi hefyd ddysgu o gartref ar adeg sy’n gyfleus i chi a byddwch yn cael gwaith rhithwir i’w gwblhau ar gyfer y sesiwn a addysgir ganlynol yn y coleg.

Asesir y rhan fwyaf o’r modiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig gydag ychydig bach o brofion dosbarth. Byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau ar sut i wella ar gyfer pob arholiad ac aseiniad.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys cyfanswm o 60 credyd – 6 ar Lefel 2 a 54 ar Lefel 3. Asesir pob uned Lefel 3 naill ai ar lefel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac yna cyfrifir gradd gyffredinol briodol. Mae gan y radd hon dariff pwyntiau UCAS cyfatebol.
4 TGAU gradd C / 4 neu’n uwch gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith 1af) a phwnc Gwyddoniaeth.

Byddwn hefyd yn derbyn TGAU gradd C / 4 neu’n uwch mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg / Cymraeg (Iaith 1af) ynghyd â chymhwyster Lefel 2 cyfatebol.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud y gorau y gallwch yn eich arholiadau. Gorau oll fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, ac efallai y byddwch yn cael mynediad I gwrs lefel uwch.
Ar ôl cwblhau Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Peirianneg yn llwyddiannus, efallai y byddwch yn dymuno symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn prifysgol.

Os byddwch yn dymuno parhau â’ch astudiaethau yn Cambria, ar ôl cwblhau’r rhaglen Mynediad yn llwyddiannus ac yn dibynnu ar eich canlyniad cyffredinol, byddwch yn gallu symud ymlaen i’r cyrsiau canlynol:

48 – 60 pwynt Tariff UCAS wedi’u cyflawni
● Diploma BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg

61 – 130 pwynt Tariff UCAS wedi’u cyflawni
● Tystysgrif Genedlaethol Uwch L4 mewn Peirianneg Drydanol/Electronig*
● Tystysgrif Genedlaethol Uwch L4 mewn Peirianneg Fecanyddol*

131 – 144 pwynt Tariff UCAS wedi’u cyflawni (lleiafswm o 39 credyd gyda Rhagoriaeth)
● Gradd Sylfaen L4-5 mewn Gweithgynhyrchu Awyrofod*
● Gradd Sylfaen L4-5 mewn Gweithgynhyrchu Uwch

*Rhaglenni dysgu yn y gwaith yw rhaglenni FdEng a HNC. Felly, dylech fod yn gweithio mewn swydd beirianyddol neu fel prentis er mwyn bodloni’r gofynion ar gyfer cwblhau’r cymwysterau hyn os ydych yn dymuno symud ymlaen iddynt.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n gyflogedig ac yn symud ymlaen i HNC neu FdEng, efallai y bydd gennych hawl i gael cyllid ar gyfer y cymwysterau hyn fel rhan o Brentisiaeth Uwch.

Ar gyfer myfyrwyr lefel uwch cyflogedig sy’n dymuno symud ymlaen i BEng (Anrh) yn Cambria, efallai y byddwch yn gymwys i gofrestru ar Brentisiaeth Gradd a chael eich gradd wedi’i hariannu’n llawn.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich rhaglen Mynediad i Addysg Uwch mewn Peirianneg, dyma rai enghreifftiau o opsiynau gyrfa posibl mewn Peirianneg unwaith y bydd dysgu pellach wedi’i gwblhau:
● Peiriannydd Dylunio
● Peiriannydd Prosiect
● Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
● Peiriannydd Cymorth Peirianneg Gweithgynhyrchu Ochr Rheilffordd
● Peiriannydd Rheoli Ansawdd
● Peiriannydd Awyrofod
● Peiriannydd Morol
● Peiriannydd Trydanol
● Peiriannydd Mecanyddol
Efallai bydd angen prynu cyfarpar a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cyfarpar atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?