main logo

Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00481
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser (tridiau’r wythnos yn y coleg).
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i ennill sgiliau mewn meysydd Peirianneg amrywiol.
Hefyd byddwch yn ennill sgiliau mewn mesuriadau a chyfrifiadau peirianneg ac iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r theori a’r wybodaeth i chi sy’n tanseilio’r cymwyseddau ymarferol. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y cymhwyster Diploma Lefel 2 City and Guilds mewn Peirianneg; bydd angen i’r holl fyfyrwyr gwblhau’r 6 o unedau canlynol er mwyn cyflawni’n llawn.

Diploma Lefel 2 NVQ City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (7682-20):
(Example Units)

7682-201 Gweithio'n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
7682-202 Cyflawni gweithgareddau peirianneg yn effeithlon ac effeithiol
7682-203 Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol
7682-205 Cynhyrchu Cydrannau gan Ddefnyddio Technegau Gosod â Llaw
7682-211 Paratoi a Defnyddio turnau ar gyfer Gweithrediadau Troi
7682-220 Cydosod a phrofi systemau pŵer hylif


Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd a Digidol.
Profiad yn ymwneud â gwaith
Mae'r cwrs ymarferol a theori hwn yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen I wneud y swydd, y gallu I drefnu gwaith ac adnabod ac atal problemau.

Bydd yn ofynnol I ddysgwyr nad ydynt wedi cyflawni gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg fynd I sesiynau I gefnogi hyn yn ychwanegol at eu rhaglen alwedigaethol.
Mae’r cwrs yn gofyn am asesu aseiniadau yn y coleg yn barhaus a byddant yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Bydd Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu’n gyson yn ystod y cwrs.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall eich arwain at ddilyn cwrs lefel uwch.
Bydd y cymhwyster yn galluogi i chi feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau eich taith tuag at Brentisiaeth. Mae sawl cyflogwr yn cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r sgiliau ymddygiadol y byddwch yn eu meithrin wrth gyflawni’r rhaglen hon, gan arwain at waith.

Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu bellach yn gweld gwerth mewn Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol. Efallai y bydd cyfleoedd yn bodoli I gael cyflogaeth hyfforddeion yn unrhyw un o’r disgyblaethau masnach ganlynol:

● Gosod
● Peirianwyr
● Mecanyddol / Cydosod

Gall dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd, yn dibynnu ar yr amodau a gynigir gan eu cyflogwr, gael cyfle I symud ymlaen i’n lefelau uwch mewn Peirianneg a fyddai’n cwblhau eu prentisiaeth.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?