main logo

Tystysgrif Genedlaethol Uwch lefel 5 mewn Rheolaeth Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP50200
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, HND – 2 flynedd llawn amser / 4 blynedd rhan amser

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn wneud cyfnodau o hunan-astudio, yn ychwanegol at oriau a addysgir.

Sylwch, lle na fydd lleoliadau gwaith yn gallu cael eu cyflawni am resymau diogelwch, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau sy’n gysylltiedig â gwaith mewn ffordd a fydd yn dal i ddatblygu eich sgiliau seiliedig ar waith.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
18 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Wrth ddewis cwrs HNC mewn Rheolaeth Anifeiliaid byddwch yn astudio ystod o bynciau, a fydd yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth i chi sy'n ymwneud ag agweddau amrywiol ac allweddol y sector. Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio i gysylltu â chyfleoedd gyrfa posibl yn y sector a helpu hwyluso eich dilyniant i gyflogaeth neu astudiaeth bellach ar lefel 6 ac uwch.

Bydd cynnwys y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai.

Nodweddion allweddol astudio rheolaeth anifeiliaid yn Cambria:
Cyfleusterau ardderchog
Ystod eang o rywogaethau anifeiliaid
Tiwtor personol a chymorth un i un

BETH FYDDA’ I’N EI ASTUDIO?

Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill set amrywiol o sgiliau sy’n addas iawn ar gyfer ystod eang o gyfleoedd yn y diwydiant anifeiliaid. Mewn sector cystadleuol dros ben, bydd myfyrwyr Cambria yn barod i gamu i’r sector gwaith gydag ystod o sgiliau diwydiant trosglwyddadwy ac ymarferol gan gynnwys rheoli casgliadau o anifeiliaid, cyflwyno cyfarwyddyd addysgu a gweithredu cynlluniau addasu ymddygiad.


Modiwlau Blwyddyn 1 - Lefel 4


Iechyd a Lles Anifeiliaid
Busnes a’r Amgylchedd Busnes
Rheoli Prosiect Llwyddiannus
Ymddygiad Anifeiliaid yn y Gymdeithas
Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid
Egwyddorion Ecolegol
Rheoli’r Casgliad o Anifeiliaid
Addysgu mewn pwnc arbenigol

Modiwlau Blwyddyn 2 - Lefel 5

• Egwyddorion Biolegol
• Prosiect Ymchwil
• Anthrosŵoleg
• Bridio a Geneteg Anifeiliaid
• Cadwraeth Anifeiliaid Gwyllt
• Moeseg ac Ymgynghoriad
• Profiad Gwaith

Yn ogystal â'r unedau theori uchod mae myfyrwyr hefyd yn cael amser tiwtorial penodedig, sesiynau sgiliau astudio a sesiynau ymarferol i gefnogi eu hastudiaethau yn rhagor.

Yn ogystal ag unedau a addysgir, mae myfyrwyr hefyd yn cael amser tiwtorial ac ymarferol penodedig i gefnogi eu hastudiaethau yn rhagor.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyser HND mewn Rheolaeth Anifeiliaid yn llwyddiannus y ymwysterau angenrheidiol i astudio ymhellach.

Mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:
• Ceidwad Anifeiliaid
• Hyfforddwr neu Ddarlithydd Anifeiliaid
• Ymgynghorydd neu Hyfforddwr Anifeiliaid
• Technegydd Bywyd Gwyllt
• Rheolwr Canolfan Achub Anifeiliaid
Llawn Amser – £5000 y flwyddyn
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Bydd costau teithio i leoliad gwaith ac oddi yno yn cael eu talu gan y myfyriwr.

Efallai y bydd angen prynu offer a/neu lifrau ar rai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.

Nid yw unrhyw ymweliadau oddi ar y safle yn orfodol a bydd yr holl gostau’n cael eu talu gan y myfyriwr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?