main logo

Diploma Estynedig Technegol Uwch lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00313
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
09 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl o’r diwydiant anifeiliaid a gofal anifeiliaid i chi, gan ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad ar lefel uwch er mwyn cael gwaith yn y sector. Byddwch yn helpu i ofalu am yr ystod eang o rywogaethau anifeiliaid yn y coleg.

Mae’r pynciau y byddwch chi’n eu hastudio’n cynnwys iechyd, ymddygiad a chyfathrebu anifeiliaid, maeth, bioleg anifeiliaid, geneteg, lles a bridio, bywyd gwyllt, ecoleg, gofalu am anifeiliaid egsotig, anifeiliaid dyfrol, adar, casgliadau sŵolegol, rheoli busnes, gofal i gwsmeriaid a marsiandïaeth manwerthu, hyfforddi anifeiliaid, adfer anifeiliaid, sgiliau ystadau a rhagor. Yn yr ail flwyddyn, bydd y llwybr hwn yn canolbwyntio’n glir ar reoli anifeiliaid egsotig mewn casgliadau swolegol.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid ardderchog yn rhoi’r cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid gan gynnwys marmosetiaid, tsintilas, ffuredau, amrywiaeth o rywogaethau madfall, nadroedd a chrwbanod, pysgod acwariwm, paracitiaid ac adar eraill, amffibiaid, infertebratau a bridiau fferm Cymreig prin. Fel dysgwr lefel 3, byddwch yn gweithio gyda’r ystod lawn o rywogaethau anifeiliaid, yn ymarfer agweddau o iechyd anifeiliaid, bwydo, trin a lletya. Byddwch hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi gyda’ch llwybr gyrfa dewisol. Bydd y dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol ac mewn grwpiau, hanner diwrnod yr wythnos o waith ymarferol yn ogystal â defnyddio ystod o dechnolegau dysgu modern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan hanfodol o’r rhaglen, a byddwn yn cydweithio â chi I wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â rhoi cyfle I chi ailsefyll arholiadau Saesneg a Mathemateg, lle bo hynny’n berthnasol.

Byddwch yn astudio cymhwyster Bagloriaeth Cymru Ôl 16 hefyd, fel rhan o'r cwrs hwn.

Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â 3 neu 4 pwnc safon uwch yn dibynnu ar y llwybr y byddwch yn ei ddilyn.
Mae’r cwrs yn cael ei asesu trwy arholiad ac aseiniad synoptig ym mhob blwyddyn, yn ogystal â nifer fach o aseiniadau dan reolaeth a phrofion eraill. Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o asesiadau ac arholiadau ffug trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Byddwch hefyd yn gwneud lleoliad profiad gwaith allanol yn y diwydiant anifeiliaid ym mlwyddyn 1.

Rhaid I ddysgwyr lwyddo yn eu blwyddyn gyntaf I gael symud ymlaen I ail flwyddyn y cwrs.
Gallai cymwysterau Saesneg a Mathemateg gynnwys sefyll arholiadau.
Llwybr 1080 (cyfwerth â 4 cymhwyster Safon Uwch) – 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd a Gwyddoniaeth
neu
Lefel 2 Gofal Anifeiliaid

Llwybr 720 (cyfwerth â 3 cymhwyster Safon Uwch) – 5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg / Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Lefel 2 Gofal Anifeiliaid

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i addysg uwch (prifysgol). Gallwch barhau i astudio yng Ngholeg Cambria Llaneurgain ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Rheolaeth Anifeiliaid. Bydd angen i chi gael y pwyntiau UCAS angenrheidiol penodol i’r cwrs o’ch dewis.
neu
Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 2 neu Lefel 3 yn y Gwaith mewn Gofal Anifeiliaid.

Mewn prifysgol, bydd dysgwyr yn nodweddiadol yn symud ymlaen i astudio pynciau fel sŵoleg, bioleg gadwraethol, nyrsio milfeddygol neu ymddygiad a lles anifeiliaid. Er bod hynny’n bosibl, nid yw’r cwrs hwn yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel llwybr i filfeddygaeth.
I’r dysgwyr hynny sy’n dymuno dechrau gweithio, bydd y cwrs Lefel 3 yn rhoi’r sgiliau theori ac ymarferol sy’n berthnasol i lawer o swyddi yn y diwydiant gofal anifeiliaid. Byddwch hefyd yn meithrin nifer o sgiliau personol, sgiliau cymdeithasol a sgiliau ehangach sy’n berthnasol i ystod ehangach o gyfleoedd gyrfa.
Mae enghreifftiau o lwybrau gyrfa nodweddiadol yn cynnwys sŵau, cadwraeth bywyd gwyllt, arferion llawfeddygaeth filfeddygol, canolfannau achub anifeiliaid, siopau anifeiliaid anwes, addysg a hyfforddi neu sefydliadau lles anifeiliaid.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?