main logo

Tystysgrif Dechnegol lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00380
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
09 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth amrywiol o’r diwydiant anifeiliaid a gofal anifeiliaid i chi, gan ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad er mwyn cael gwaith yn y sector. Byddwch yn helpu i ofalu am yr ystod eang o rywogaethau anifeiliaid yn y coleg.

Bydd y pynciau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys: iechyd a lles anifeiliaid, bridiau a gwastrodi, bywyd gwyllt Prydain, bioleg anifeiliaid, ymddygiad anifeiliaid, a bwydo a lletya anifeiliaid.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid ragorol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, moch, nadroedd, madfallod a chnofilod. Byddwch hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi gyda’ch llwybr gyrfa dewisol. Bydd y dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol ac mewn grwpiau. Bydd hyd at ddiwrnod yr wythnos yn waith ymarferol, yn ogystal â defnyddio ystod o dechnolegau dysgu modern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen, a byddwn yn cyd-weithio â chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â rhoi cyfle i chi ailsefyll arholiadau Saesneg a Mathemateg TGAU.
Mae’r cwrs yn cael ei asesu drwy arholiad ac aseiniad synoptig dan reolaeth, yn ogystal â nifer fach o asesiadau dan reolaeth.

Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o asesiadau ac arholiadau ffug trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Byddwch hefyd yn treulio cyfnod profiad gwaith allanol ar leoliad yn y diwydiant gofal anifeiliaid.

Efallai bydd cymwysterau Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf / Iaith Saesneg / Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Brentisiaeth Lefel 2 yn y gwaith mewn Gofal Anifeiliaid, yn amodol ar fodloni’r meini prawf.

Gall dysgwyr sy’n dymuno gweithio ddod o hyd i waith mewn sŵau, siopau anifeiliaid anwes, cynelau a lletyau cathod, canolfannau achub anifeiliaid, meddygfeydd milfeddygol ac mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?