main logo

Tystysgrif Genedlaethol Uwch lefel 4 mewn Rheolaeth Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51284
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, HNC – 1 flwyddyn yn llawn amser / 2 flynedd yn rhan-amser

Bydd gofyn I fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunanastudiaeth, yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
18 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Wrth ddewis cwrs HNC mewn Rheolaeth Anifeiliaid byddwch yn astudio ystod o bynciau, a fydd yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth i chi sy'n ymwneud ag agweddau amrywiol ac allweddol y sector. Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio i gysylltu â chyfleoedd gyrfa posibl yn y sector a helpu hwyluso eich dilyniant i gyflogaeth neu astudiaeth bellach, er enghraifft y cwrs HND lefel 5 (LP50200).

Bydd cynnwys y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai.

Nodweddion allweddol astudio rheolaeth anifeiliaid yn Cambria:
● Cyfleusterau rhagorol
● Ystod eang o rywogaethau anifeiliaid
● Tiwtor personol a chymorth un i un

BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Bydd y graddedigion sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus wedi meithrin set o sgiliau amrywiol sy’n addas i ystod eang o gyfleoedd yn y diwydiant anifeiliaid. Mewn sector hynod gystadleuol, bydd myfyrwyr Cambria yn gallu mynd i fyd gwaith gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol yn y diwydiant, gan gynnwys rheoli casgliadau anifeiliaid, rhoi cyfarwyddiadau addysgu a gweithredu cynlluniau addasu ymddygiad.

MODIWLAU:
Blwyddyn 1:
• Iechyd a Lles Anifeiliaid
• Busnes a’r Amgylchedd Busnes
• Rheoli Prosiect Llwyddiannus
• Ymddygiad Anifeiliaid yn y Gymdeithas
• Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid
• Maetheg Anifeiliaid
• Rheoli'r Casgliad o Anifeiliaid
• Addysgu Pwnc Arbenigol

Yn ogystal ag unedau a addysgir, bydd myfyrwyr yn cael amser tiwtorialau ac ymarferol wedi’i neilltuo i gynorthwyo â’u hastudiaethau ymhellach.
Bydd asesu yn cael ei gynnal drwy gyfuniad o ddulliau gan gynnwys arholiadau, asesiadau dan reolaeth, aseiniadau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, astudiaethau achos, prosiectau ac arsylwadau cymheiriaid.

Bydd aseiniadau’n cael eu marcio’n electronig a byddwch yn cael adborth ac awgrymiadau i wella ar gyfer pob asesiad.
Bydd gan fyfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyser HNC mewn Rheolaeth Anifeiliaid yn llwyddiannus y ymwysterau angenrheidiol i astudio ymhellach.

Mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:
• Ceidwad Anifeiliaid
• Hyfforddwr neu Ddarlithydd Anifeiliaid
• Ymgynghorydd neu Hyfforddwr Anifeiliaid
• Technegydd Bywyd Gwyllt
• Rheolwr Canolfan Achub Anifeiliaid
Llawn Amser – £5000 y flwyddyn
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Gallai ffioedd godi yn unol â chwyddiant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Efallai bydd angen prynu cyfarpar a / neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cyfarpar i gael rhagor o wybodaeth.

Nid yw unrhyw ymweliadau oddi ar y safle yn orfodol a bydd y dysgwr yn talu’r holl gostau

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?