main logo

Niwrodechnoleg lefel 3 (cwrs arbenigol)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP54125
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1-flwyddyn llawn amser.
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cwrs cynhwysol a gefnogir yn llawn yw Niwrodechnoleg Lefel 3, a’i nod yw darparu amgylchedd dysgu a fydd yn gweddu orau i CHI. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion a galluoedd dysgwyr Awtistig ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am dechnoleg ddigidol a'r hyn y gall ei gynnig.

Mae astudio cwrs Niwrodechnoleg yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynhyrchion arloesol a thechnoleg sy'n newid yn y sector sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n eich rhoi yn y lle gorau posibl i fanteisio i'r eithaf ar yr amgylchedd digidol hwn ac elwa’n llawn ar eich potensial.

Bydd Niwrodechnoleg yn eich darparu gyda’r cymysgedd cywir o sgiliau i chi ddatblygu eich uchelgeisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad a'r wybodaeth cyffredinol gorau i lwyddo. Ar y cwrs byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol i wireddu eich gwir botensial, wrth i chi ddatblygu eich sgiliau digidol a chyflogadwyedd. Gyda chefnogaeth lawn, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, sgiliau trefnu, sgiliau bywyd a sgiliau byw.

Cwrs sy’n cael ei gefnogi’n llawn ym mhob maes gan staff cymorth profiadol. Bydd gennych yr hyder a’r gallu i archwilio'r diwydiannau TG, gyda’r dewis i symud ymlaen o fewn y coleg er mwyn i chi lwyddo mewn bywyd ac ym myd gwaith.

Os ydych yn ymddiddori yn y technolegau digidol, gallai’r cwrs hwn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn!

Ar y cwrs, bydd Tystysgrif Genedlaethol Lefel 3 BTEC Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth yn eich darparu gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo ar draws ystod o wahanol unedau ac arbenigeddau.

Byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant mewn Saesneg a Mathemateg ar y cwrs, gan eich galluogi i ennill cymhwyster a sgiliau swyddogaethol perthnasol.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu i roi’r hyder i chi allu cymhwyso eich gwybodaeth er mwyn llwyddo yn y gweithle – a meddu ar y sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch.

Mae’r ystod hon o asesiadau galwedigaethol – ymarferol ac ysgrifenedig – yn golygu y gallwch arddangos eich dysg a’ch cyflawniadau yn y ffordd orau pan fyddwch yn cymryd eich cam nesaf, boed hynny yn geisiadau I gyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.
Bydd angen 4 TGAU gradd D/3 neu uwch ar ddysgwyr gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ac awydd am yrfa mewn technolegau digidol yn y dyfodol.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Technoleg (Niwroamrywiol), mae’n rhaid I ddysgwyr fod â Chynllun Datblygu Unigol (CDU, Cymru), Cynllun Dysgu a Sgiliau (CDS, Cymru), neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP, Lloegr) sy’n amlinellu anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Bydd cymhwysedd ar gyfer y cwrs Technoleg (Niwroamrywiol) yn cael ei wirio gan Banel Cynhwysiant y Coleg a fydd hefyd yn cynghori ar gymorth ac addasiadau rhesymol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd cwblhau y cwrs Niwrodechnoleg Lefel 3 yn eich darparu gyda nifer o gyfleoedd i symud ymlaen.
Fe allai fod yn ofynnol prynu offer ac/neu iwnifform ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am fwy o wybodaeth
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?