main logo

Diploma lefel 3 mewn E-Chwaraeon - Marchnata Digidol a Menter

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01423
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Caiff E-Chwaraeon ei ddiffinio fel chwarae gemau cystadleuol a drefnwyd, sef person yn erbyn person, yn unigol neu fel tîm. Mae’r diwydiant E-chwaraeon yn un byd eang sy’n tyfu’n gyflym. Ym mis Chwefror 2019, fe gyhoeddodd Newzoo ei Adroddiad Marchnad E-Chwaraeon Byd Eang 2019. Roedd yn nodi bod y farchnad e-chwaraeon fyd eang yn werth $655 miliwn yn y DU yn 2018. Cododd hyn I bron I $865 miliwn yn 2019 a rhagwelir y bydd yn cyrraedd $1.79 biliwn yn 2022.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’I ddatblygu I fodloni’r galw sydd ar ddod am sgiliau mewn e-chwaraeon. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys llawer o sgiliau trosglwyddadwy sy’n galluogi dysgwyr I gael profiad o wahanol feysydd ym myd e-chwaraeon i’w helpu I symud ymlaen at gyflogaeth, naill ai’n uniongyrchol neu trwy astudiaeth ychwanegol.

Mae E-Chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw I astudio sector sy’n cynnwys elfennau o sawl maes pwnc fel chwaraeon, marchnata, menter, TG a’r rhaglenni creadigol. Mae’n rhoi cyfle I gyfuno sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddyliol ac ariannol I un cymhwyster I fanylu ac ehangu ar ddysgu. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr yn y gweithle cyfnewidiol. Rhaid I ddysgwyr ddefnyddio strategaeth, sgil a gweithio mewn tîm I fod yn llwyddiannus. Nid yw’r cyfan yn ymwneud â chwarae gemau. Ychydig iawn o brofiad chwarae gemau y byddwch yn ei gael, ar gyfer asesiadau neu wrth gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Bydd dysgwyr a fydd yn dilyn y cymhwyster hwn yn astudio 4 uned orfodol:
● Uned 1: Cyflwyniad I E-Chwaraeon
● Uned 2: Sgiliau, Strategaethau a Dadansoddiadau E-Chwaraeon
● Uned 3: Menter ac Entrepreneuriaeth yn y diwydiant E-Chwaraeon
● Uned 4: Iechyd, Llesiant a Ffitrwydd ar gyfer Chwaraewyr E-Chwaraeon
● Uned 5: Digwyddiadau E-Chwaraeon

Yn ogystal â’r unedau gorfodol hyn, bydd deg uned ddewisol arall i’w hastudio. Bwriad yr unedau dewisol yw rhoi dewis eang I ddysgwyr ennill gwybodaeth fanwl mewn ystod o unedau ar draws y meysydd cyflogaeth e-chwaraeon, er enghraifft chwaraeon, y cyfryngau, TG a menter busnes, yn ychwanegol at y rhai a ddysgwyd yn yr unedau gorfodol.
Mae’r cymhwyster BTEC yn defnyddio cyfuniad o arddulliau asesu i roi’r hyder i chi y gallwch gymhwyso eich gwybodaeth i lwyddo yn y gweithle – a bod gennych chi’r sgiliau astudio i barhau i ddysgu ar gyrsiau addysg uwch. Mae’r ystod o asesiadau galwedigaethol – ymarferol ac ysgrifenedig – yn golygu y gallwch ddangos eich dysgu a’ch cyflawniadau yn y modd mwyaf effeithiol wrth i chi gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n geisiadau ar gyfer cyrsiau addysg uwch neu ddarpar gyflogwyr.

Mae BTEC yn defnyddio tri math o asesiad – aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Mae cyfanswm o bedwar arholiad/tasg sy’n cael eu hasesu’n allanol, sydd wedi’u gwasgaru dros y ddwy flynedd lawn.
5 TGAU graddau A*-C neu 9-4 ar gyfer TGAU Saesneg, gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen, mae gofyn am gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at ddysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant e-chwaraeon, trwy brentisiaeth o bosib, neu sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch. Mae’r cymhwyster wedi’i gymeradwyo gan British Esports Association fel un sy’n addas ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio yn y diwydiant. Golyga hyn y bydd yn cael ei gydnabod gan gyflogwyr a bydd yn cefnogi mynediad i’r diwydiant mewn ystod o rolau.

Hefyd mae’r cymhwyster hwn yn cynnig y cyfle i ddysgwyr symud ymlaen i ystod eang o raglenni addysg, gan gynnwys graddau baglor.

Y pwnc y mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 Pearson mewn E-Chwaraeon yn ei ganolbwyntio arno’n bennaf yw symud ymlaen i gyflogaeth ar draws ystod o rolau ym myd E-chwaraeon. Mae’r swyddi sydd ar gael yn y meysydd hyn yn cynnwys:
• chwaraewr e-chwaraeon
• hyfforddwr tîm
• trefnydd digwyddiadau
• sylwebydd a chyflwynydd
• dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol
• golygydd cynhyrchu fideo
• ffotograffydd
• dadansoddwr data

Mae’r cymhwyster yn denu pwyntiau tariff UCAS ac yn cael ei gydnabod gan ddarparwyr addysg uwch fel un sy’n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer llawer o gyrsiau cysylltiedig. Wrth eu hastudio mewn rhaglen astudio lawn amser dwy flynedd, gall dysgwyr symud ymlaen i raglenni gradd addysg uwch, fel BA (Anrh) mewn Rheoli Digwyddiadau, BA (Anrh) yn y Cyfryngau neu BA (Anrh) mewn E-chwaraeon, yn ogystal â chael mynediad at raglenni addysg uwch eraill. Dylai dysgwyr wirio gofynion mynediad gyda darparwyr ar gyfer rhaglenni gradd penodol.
Efallai bydd gofyn i brynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?