main logo

NCFE Diploma Cyflwyniadol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00495
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, 2 flynedd o hyd.

Diploma Rhagarweiniol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth ydy blwyddyn 1

Tridiau’r wythnos, 9 am tan 4.45 pm
Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi cyfle i ddysgwyr ddysgu am ystod eang o bynciau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r diwydiant hwn.

Rhai enghreifftiau o’r unedau y byddwch chi’n eu hastudio ydy:

● Diwydiant Teithio a Thwristiaeth y Deyrnas Unedig
● Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth
● Atyniadau Ymwelwyr yn y Deyrnas Unedig
● Gweithrediadau Asiantaeth Deithio
● Arwain Teithiau
● Y Diwydiant Mordeithio
● Twristiaeth Gyfrifol
● Profiad o Faes Awyr
● Criw Caban Awyren
● Gwasanaethau I Gwsmeriaid

(gallai’r unedau newid)

Yn ogystal â’r Diploma Rhagarweiniol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth, mae rhaglen maes dysgu’r cwrs yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol:

● Cymhwyster Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Profiad gwaith

Mae angen gwisg ar gyfer y cwrs hwn. Mae manylion ar gael o dan ‘Rhestr cit’.
Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, a fydd yn cynnwys cyflwyniadau, hyrwyddiadau, digwyddiadau a chwarae rôl. Efallai bydd rhai asesiadau’n cael eu cynnal mewn amgylchfyd gwaith go iawn hefyd ac ar leoliadau profiad gwaith mewn sefydliadau allanol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gellir cael amrywiaeth eang o ddiplomâu a graddau Addysg Uwch gyda’r cymhwyster hwn. Fel arall, mae yna alw mawr am raddedigion Diploma Cenedlaethol gan gyflogwyr yn y diwydiannau Teithio a Thwristiaeth yn y DU a thramor.

Gweinydd Hedfan
Tywysydd Teithiau
Trefnwr Teithiau
Ymgynghorydd Mordeithio
Blogiwr teithio
Cynrychiolydd Cyrchfan Gwyliau
Cyflogaeth ar Long Fordeithio
Asiant Gwasanaeth i Deithwyr Maes Awyr
Cynadledda a Digwyddiadau
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?