main logo

NCFE Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01344
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd, sy’n rhedeg o fis Medi tan fis Mehefin

Tridiau’r wythnos yn y coleg, 9 am tan 4.45 pm
Adran
Teithio a’r Economi Ymwelwyr
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cafodd y cwrs hwn ei ddylunio i ddarparu cyflwyniad cyffredinol i
ddiwydiant Teithio a Thwristiaeth i’r rhai sydd eisiau datblygu eu
gyrfa o fewn un o’i sawl faes galwedigaethol cysylltiedig.

Dyma unedau enghreifftiol y gallwch chi eu hastudio fel rhan o’r
cwrs:

● Twristiaeth yn y DU
● Meysydd Awyr a Chwmnïau Hedfan
● Deall Twristiaeth Arbenigol
● Cyflwyniad i Deithiau Tywys
● Profiad gwaith mewn Teithio a Thwristiaeth
(gellir newid yr unedau hyn)

Mae profiad gwaith yn elfen hanfodol o’r cwrs, sy’n ategu datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a’r diwydiant.

Yn ogystal â’r Diploma Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth, mae rhaglen maes dysgu’r cwrs yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
Ceir asesu parhaus drwy gydol y cwrs gan ddefnyddio aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, a fydd yn cynnwys cyflwyniadau a chwarae rôl.

Mae rhai unedau yn cael eu hasesu’n fewnol drwy brofion ysgrifenedig (uchafswm o 25%).

Gellir cynnal rhai asesiadau hefyd ddigwydd mewn amgylcheddau gwaith go iawn ar leoliadau profiad gwaith mewn sefydliadau allanol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af), neu fod wedi cwblhau Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Gallwch chwilio am waith yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth, neu symud ymlaen i’r cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 os ydych wedi cyflawni’r graddau gofynnol ac wedi bodloni’r meini prawf mynediad.

Gweinydd Hedfan
Tywysydd Teithiau
Trefnwr Teithiau
Ymgynghorydd Mordeithio
Blogiwr teithio
Cynrychiolydd Cyrchfan Gwyliau
Cyflogaeth ar Long Fordeithio
Asiant Gwasanaeth i Deithwyr Maes Awyr
Cynadledda a Digwyddiadau
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?