main logo

Diploma lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01022
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, tridiau’r wythnos.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad i ofal anifeiliaid ac mae ganddo ffocws ymarferol sy’n cael ei ategu gan sesiynau dosbarth ar theori, gyda phob un ohonynt wedi’u dylunio i ehangu ac annog datblygu sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad er mwyn gweithio tuag at gael swydd sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid. Mae’r cwrs Lefel 1 wedi ei anelu at ddysgwyr gydag ychydig neu ddim profiad mewn gofal anifeiliaid. I’r rheini gyda rhywfaint o brofiad, bydd cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol ymhellach. Byddwch yn ymgymryd â gwaith helpu i ofalu am yr amrywiaeth eang o anifeiliaid yn y coleg.

Mae’r pynciau y byddwch yn eu hastudio’n cynnwys iechyd a lles anifeiliaid, trin anifeiliaid, bywyd gwyllt a chadwraeth, bwydo a dyfrio, a llety i’r anifeiliaid.

Bydd y Canolfannau ardderchog Gofal Anifeiliaid a Bridiau Prin yn rhoi’r cyfle i chi ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda mynediad at dros gant o rywogaethau o anifeiliaid gan gynnwys cwningod, moch cwta, llygod mawr, llygod bach, ieir, hwyaid, ffuredau, cŵn, defaid, geifr, moch a physgod. Byddwch hefyd yn edrych ar amrywiaeth eang o wybodaeth greiddiol a bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi yn y llwybr gyrfa o’ch dewis. Bydd yr addysgu mor hwyliog â phosibl a byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol a grŵp, gwaith ymarferol, a byddwch yn defnyddio ystod o dechnolegau dysgu modern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen a byddwn yn gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Asesir y cwrs trwy 2 brawf ar-lein, ac amrywiaeth o asesiadau dan reolaeth a fydd yn cynnwys ystod o dasgau gan gynnwys theori a gweithgareddau ymarferol.
Trwy gydol y rhaglen byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Byddwch hefyd yn cynnal cyfnod o brofiad cysylltiedig â gwaith yn y diwydiant Gofal Anifeiliaid a allai fod yn gyfuniad o leoliad allanol yn ogystal ag amgylchedd gwaith realistig yn y coleg.

Gall y rhannau Saesneg a mathemateg gynnwys sefyll arholiadau.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Ar gyfer pob dysgwr sydd am symud ymlaen I’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn amodol ar fodloni’r meini prawf.

Gall dysgwyr sy’n dymuno gweithio ddod o hyd i waith fel gweithiwr cynelau cŵn, gweithiwr lletyau cathod, gweithiwr mewn siop anifeiliaid anwes, neu gymhorthydd twtio anifeiliaid.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?