main logo

Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00131
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser.
3 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9am tan 4.45

Bydd angen i ddysgwyr fynd rhai sesiynau gyda’r nos

Bydd amserlenni’n cael eu rhannu yn ystod y cyfnod ymsefydlu
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt ar gyfer dysgwyr sy'n ceisio gyrfa fel Steilydd.

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Trin Gwallt (NOS), ac mae’n cael ei gydnabod gan brif gymdeithas broffesiynol trin gwallt Prydain (The Hairdressing Council) yn gymhwyster addas y diben o baratoi dysgwyr at yrfa fel uwch driniwr gwallt / uwch steilydd.

Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o theori a sgiliau ymarferol uwch. Bydd yn meithrin ystod o sgiliau technegol, gan ganolbwyntio ar liwio, torri a thechnegau steilio yn ychwanegu at greadigrwydd a phroffesiynoldeb y myfyrwyr. Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio o’u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r dystiolaeth asesu. Mae’r rhaglen yn darparu’r sgiliau a’r rhinweddau personol sydd eu heisiau gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt yn cynnwys yr unedau canlynol;
● Torri’r gwallt gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
● Lliwio’r gwallt yn greadigol a’I oleuo
● Gwasanaethau ymgynghori trin gwallt
● Gosod a thrin gwallt yn greadigol
● Gwasanaethau cywiro lliw gwallt

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith rheolaidd yn y salon masnachol yn Iâl, Salon Iâl wrth astudio eu cymwysterau. Mae datblygu sgiliau cyflogadwyedd yn agwedd sylfaenol ar y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster Lefel 3 hefyd yn cynnwys unedau penodol ar ‘Busnes yn y Diwydiant Gwallt’. Bydd hyn yn ymdrechu i gefnogi ein dysgwyr i gael gwell dealltwriaeth o sefydlu a gwneud y mwyaf o lwyddiant eu Busnesau a'r rhai y byddant yn gweithio ynddynt.

Yn ogystal â chymhwyster trin gwallt Lefel 3, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Rhaid I bob dysgwr gwblhau lleoliad gwaith

Sylwch y gall eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda'r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi dyddiadau I chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod angen cit a gwisg I allu astudio’r cwrs hwn.
Asesir gwaith cwrs yn barhaus a gall dysgwyr ennill lefelau cyrhaeddiad Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Cwblhau cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 yn llwyddiannus.
Gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch neu i weithio yn y sector Trin Gwallt. Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.

Y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yw gweithio mewn salon fel steilydd, goruchwyliwr neu arbenigwr lliwio.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?