main logo

Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01495
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd, sy’n dechrau ym mis Medi tan fis Mehefin

Cwrs 3 diwrnod yn y coleg 9 tan 4.30

Bydd adegau pan fyddwch chi angen mynd i ddigwyddiadau gyda’r nos

Bydd amserlenni’n cael eu rhannu gyda dysgwyr yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych chi eisiau datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn Torri Gwallt Dynion yna dyma’r cwrs i chi.

Mae’r Dystysgrif Lefel 3 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion (QCF) yn gymhwyster lefel technegol sy’n darparu’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i weithio fel barbwr cyflogedig ac yn/neu’n hunan cyflogedig.

Pam mai’r cymhwyster hwn yw’r un mwyaf addas?
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys sgiliau penodol sydd eu hangen i weithio fel barbwr mewn siop barbwr. Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i chi adeiladu ar y sgiliau a dealltwriaeth sydd gennych yn barod am drin gwallt ac yn datblygu'r uwch sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer gwaith.

Beth mae’r cymhwyster hwn yn ei gynnwys?
Mae pedair uned orfodol i chi eu hastudio yn y cymhwyster hwn gan gynnwys:
Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid
Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau torri gwallt dynion
Dylunio a chreu ystod o siapiau gwallt yr wyneb
Darparu gwasanaethau eillio

Yna byddwch yn gallu dewis o leiaf dwy uned ddewisol o ystod o 10 uned. Mae’r ystod lawn o unedau ar gael yn y llyfr cofnodi asesiadau.

Mae’r cymhwyster Lefel 3 hwn yn cynnwys unedau penodol ar ‘Fusnes yn y Diwydiant Gwallt a Thorri gwallt dynion’. Bydd hyn yn ymdrechu i gefnogi ein dysgwyr i gael gwell dealltwriaeth o sefydlu a gwneud y mwyaf o lwyddiant eu Busnesau a'r rhai y byddant yn gweithio ynddynt.

Er mwyn sicrhau bod gan ein myfyrwyr Lefel 3 mewn Torri Gwallt Dynion ystod eang o sgiliau ar gyfer y diwydiant, rydym wedi cynnwys unedau dewisol yn y rhaglen gan gynnwys gofal croen wyneb.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 3 mewn Torri Gwallt Dynion, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Mae’n rhaid i bob myfyriwr gwblhau cyfnod mewn lleoliad gwaith

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau i chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod angen cit a gwisg er mwyn gallu astudio’r cwrs hwn.
Byddwch yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau ymarferol ac yn cael eich asesu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Byddwn yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth trwy aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau.
Cymhwyster Lefel 2 NVQ mewn Torri Gwallt Dynion
Neu
Cwblhau Cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt yn llwyddiannus a phrofiad o weithio mewn
siop barbwr (yn amodol ar archwiliad sgiliau).
Astudio Pellach:
L2 Trin Gwallt
L2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau

Cyfleoedd Gyrfa:
●Siopau torri gwallt dynion/salonau masnachol
●Annibynnol/hunangyflogedig/symudol/lleoliadau yn y cartref
●Gweithgynhyrchu cynnyrch a hyfforddi
●Lluoedd Arfog
●Y Gwasanaeth Carchardai
●Llongau teithio
●Ysbytai/cartrefi gofal
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?