Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01588 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Dysgu Sylfaen, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion |
Dyddiad Dechrau | 05 Sep 2024 |
Dyddiad Gorffen | 20 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sydd eisiau cyflwyniad i’r sector Harddwch.
Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau harddwch a chyflogadwyedd i sicrhau bod ganddynt ystod o wybodaeth i’w galluogi nhw i symud ymlaen yn y sector. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol i ddatblygu eu sgiliau a theori yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu eu gwybodaeth.
Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ail-sefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.
Byddwn yn penodi Anogwr Bugeiliol i bob dysgwr a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.

Bydd dysgwyr yn cyflawni eu cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad – rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Dilyniant i gwrs Lefel 2, fel y rhai sy’n cael eu cynnig yn y sector Therapi Harddwch, Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau neu gyflogaeth llawn amser.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024