main logo

Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01388
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.

Tridiau’r wythnos yn y coleg, 9am tan 4.30pm

Sylwch y bydd eich amserlen yn cynnwys rhai sesiynau gyda’r nos
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych chi’n chwilio am yrfa gyffrous mewn Torri Gwallt Dynion yna dyma’r cwrs i chi.

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Torri Gwallt Dynion yn gymhwyster sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i ddatblygu eich sgiliau ymarferol yn;

• y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt dynion,
• y gwaith arbenigol o dorri gwallt dynion,
• sut I roi gwasanaethau rhoi siampŵ a chyflyrydd neu steilio a sut I gynnig gwasanaeth ymgynghori da I gleientiaid.

Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o iechyd a diogelwch a sut beth yw gweithio yn y diwydiant trin gwallt. Hefyd, byddwch yn meithrin dealltwriaeth greiddiol a dealltwriaeth o’r sgiliau ymarferol a ddysgir trwy gydol y cymhwyster hwn.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Torri Gwallt Dynion, bydd y rhaglen maes dysgu yn cynnwys y canlynol:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Rhaid i ddysgwyr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch fod angen cit a gwisg er mwyn gallu astudio’r cwrs.
Byddwch yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau ymarferol ac yn cael eich asesu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Byddwn yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol trwy aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
L2 Trin Gwallt
L2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
L3 Torri Gwallt Dynion

Gall y cymhwyster hwn arwain at waith yn uniongyrchol yn y diwydiant torri gwallt dynion fel steilydd iau neu i weithio fel torrwr gwallt dynion annibynnol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?