main logo

Lefel 1 mewn Peirianneg Fecanyddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00248
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyma gwrs ymarferol a byddwch yn meithrin sgiliau mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys Prosesau Peirianneg Fecanyddol, Mainc Ffitio, Gwaith turnio, Mesuriadau a Chyfrifiadau, ac Iechyd a Diogelwch. Bydd y cwrs yn cyflwyno’r damcaniaethau a'r wybodaeth sy'n sail i’r cymwyseddau y byddwch yn eu dysgu.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn cael Tystysgrif Dechnegol Lefel 1 City & Guilds yn ogystal â sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu.

Tystysgrif Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg City & Guilds 7682:
Gwaith Ymarferol (Unedau Enghreifftiol)
Uned 201 – Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchfyd Peirianneg
Uned 102 – Cyflawni gweithgarwch Peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
Uned 103 –Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
Uned 104 – Gwneud cydrannau gan ddefnyddio offer llaw a thechnegau ffitio
Uned 105 – Cydosod cydrannau mecanyddol
Uned 107 – Defnyddio turn ar gyfer gweithrediadau turnio

Meithrin sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.

Profiad Gwaith Cysylltiedig

Bydd gofyn i fyfyrwyr nad oes ganddynt radd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg fynychu sesiynau i gefnogi hyn yn ogystal â’u rhaglen alwedigaethol.
Arsylwi ar asesiadau ymarferol mewn gweithdai peirianneg gydag offer llawn.

Byddwn yn profi’r wybodaeth sylfaenol trwy aseiniadau a chwestiynau ac atebion amlddewis.
4 TGAU gradd E neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg iaith/Cymraeg (iaith gyntaf), neu bod wedi cwblhau cymhwyster lefel mynediad perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Cyflogaeth yn niwydiant Peirianneg/Mecanyddol, gan ddatblygu i gyrsiau mwy arbenigol fel Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg L2. Bydd dysgwyr heb raddau TGAU A*-C mewn Mathemateg a Saesneg yn parhau i weithio arnynt er mwyn cefnogi eu dilyniant i gyfleoedd cyflogaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?