Cyflwyniad i Dechnoleg Synwyryddion Diwydiannol

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18273
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 1 Diwrnod (neu 2 noson (3 awr yr un)
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’n bosib dod o hyd i synwyryddion diwydiannol ym mhob proses ddiwydiannol fodern bron, waeth beth fo'u cymhlethdod. Bydd y rhai sy'n mynd ar y cwrs hwn yn dysgu'r hanes, yr esblygiad, ac yn dod i gysylltiad ag amrywiaeth o synwyryddion sy'n gwneud gweithgynhyrchu'r rhyfeddod modern rydyn ni’n ei weld heddiw.

Caiff synwyryddion diwydiannol eu defnyddio i fesur maint ffisegol y mewnbwn ac anfon signal trydanol cyfatebol ar yr allbwn. Caiff yr allbwn ei ddefnyddio amlaf fel mewnbwn i PLC neu reolwr proses a all ddeall y wybodaeth hon a chymryd camau rhesymegol i reoli proses gynhyrchu neu weithgynhyrchu.

Bydd myfyrwyr yn trafod synwyryddion diwydiannol cyffredin mewn llawer o gategorïau, gan gynnwys trydanol, optegol, thermol, magnetig, cemegol a mecanyddol.

Deilliannau dysgu

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn:

● Gwerthfawrogi'r gofynion ar gyfer synwyryddion diwydiannol, gan gynnwys gofynion diogelwch a chyfreithiol.
● Deall hanes ac esblygiad synwyryddion mewn peirianneg a gweithgynhyrchu.
● Archwilio synwyryddion diwydiannol cyffredin gan gynnwys synwyryddion Trydanol, Optegol, Thermol, Magnetig, Cemegol a Mecanyddol.
● Dysgu am fanteision synwyryddion ‘clyfar’ modern a chael profiad ohonyn nhw ar waith.
● Dysgu am synwyryddion ar gyfer monitro cyflwr a'r manteision/heriau cysylltiedig.
● Deall egwyddorion gweithredu synwyryddion diwydiannol cyffredin, synwyryddion clyfar a'u cymwysiadau.
● Cael trosolwg o Ddiwydiant 4.0.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol, er byddai dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg mecanyddol/trydanol cyffredinol yn fanteisiol.
Asesiadau ffurfiannol amlddewis rheolaidd.
Trydanwr
Peiriannydd Cynnal a Chadw
Peiriannydd Awtomatiaeth
Peiriannydd Offeryniaeth a Rheoli
Technegydd Gwasanaeth Maes
Technegydd Awtomatiaeth Prosesau.
£180 y dysgwr (6 o leiaf)
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
19/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?