Byddwn yn asesu eich dysgu a’ch cyflawniad trwy gydol y cwrs, gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau. Bydd disgwyl i chi greu portffolio o dystiolaeth a fyddai’n gallu cynnwys tystiolaeth fel taflenni gwybodaeth a phosteri ar bynciau amrywiol, ac ysgrifennu traethodau ac adroddiadau byrion.
Nid oes angen unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond dylai ymgeiswyr gael o leiaf tair blynedd o sgiliau bywyd perthnasol a enillwyd ar ôl addysg orfodol.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd y cyfleoedd i symud ymlaen yn gallu cynnwys:
● Mynediad i Addysg Uwch (Lefel 3)
● Rhaglenni galwedigaethol
● Cyfleoedd Cyflogadwyedd
● Prosiectau yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.