Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwi, gwaith ymarferol a thasgau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg.
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r Sgiliau Sylfaen – rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi gwneud cynnydd mewn Mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:
Lefel 2 mewn TG, Cyfryngau neu E-chwaraeon, neu gwrs newydd mewn maes galwedigaethol arall o’ch dewis chi.
Hyfforddeiaeth neu raglen brentisiaeth.
Cyflogaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.