main logo

Mynediad i Ofal Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01506
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn lawn amser, 3 diwrnod yr wythnos yn y coleg
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn darparu cyflwyniad sylfaenol i ofal anifeiliaid ac mae ganddo ffocws ymarferol sy'n cael ei gefnogi gan sesiynau ystafell ddosbarth sy'n seiliedig ar theori, a'r cyfan wedi'i gynllunio i ymestyn ac annog datblygu sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad er mwyn gweithio tuag at gael cyflogaeth sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid. Mae rhaglen Mynediad 3 wedi'i hanelu at ddysgwyr gydag ychydig neu ddim profiad ym maes gofal anifeiliaid. I'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad bydd cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol ymhellach. Byddwch yn rhan o'r broses o helpu i ofalu am yr amrywiaeth eang o anifeiliaid yn y coleg.

Mae'r pynciau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys iechyd a llesiant anifeiliaid, trin anifeiliaid, bwydo a dyfrio, a llety anifeiliaid.

Bydd profiad gwaith, ymweliadau a siaradwyr gwadd hefyd yn rhan annatod o'r rhaglen

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o'r rhaglen a byddwn yn gweithio gyda chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Asesir y cwrs drwy ystod o dasgau gan gynnwys theori a gweithgareddau ymarferol.

Trwy gydol y rhaglen byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu gyda dysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol yn ofynnol ond byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Dilyniant i Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid (technegol) yn amodol ar fodloni’r meini prawf.
Dilyniant i’r Cyflwyniad Lefel 1 i Ofal Anifeiliaid yn amodol ar fodloni’r meini prawf.

Gall dysgwyr sy’n dymuno mynd i gyflogaeth ddod o hyd i waith fel gweithiwr mewn cenel, gweithiwr mewn cathdy, cymhorthydd mewn siop anifeiliaid anwes, neu gymhorthydd twtio.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?