main logo

Diploma Level 1 UAL mewn Cerddoriaeth; Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP50024
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Dysgu Sylfaen, Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyluniwyd y Diploma Lefel 1 mewn Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu i ddarparu’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n angenrheidiol i chi gael mynediad i a symud ymlaen i astudiaethau a hyfforddiant pellach mewn amrediad o ddisgyblaethau cerddoriaeth, perfformio a chynyrchiadau.

Dyluniwyd y cymhwyster i’ch cyflwyno i’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn cyfoethogi hunan hyder ac yn datgelu’r galwadau a chyfleoedd gyrfa potensial yn y diwydiannau creadigol.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai â diddordeb mewn cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu i ymchwilio rhai o’r deunyddiau, dulliau a phrosesau sy’n cefnogi llawer o weithgareddau cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, a dechrau datblygu sgiliau cysylltiedig. Bydd y cwrs hwn yn caniatáu i chi ddatblygu eich creadigrwydd wrth ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflwyniad llwyddiannus i holl feysydd y Diwydiannau Creadigol, ac yn eich paratoi i symud ymlaen i Lefel 2.

Mae’r rhaglen astudio yn cynnwys amrywiaeth o unedau a byddwch yn datblygu sgiliau trwy amrediad o weithgareddau. Byddwch yn cael cyflwyniad i amrediad o weithgareddau sy’n hanfodol i ddatblygu a darparu perfformiad megis actio, sgiliau lleisiol a symud yn ogystal â chael profiad o weithredoedd technegol gefn llwyfan. Bydd cyfleoedd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes a byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol a gefnogir gan ymweliadau addysgol.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn bwyslais craidd i’r holl ddysgwyr sy’n dilyn y rhaglen hon, gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i ymgeisio am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt trwy gydol eu cyfnod yn dilyn y rhaglen. Byddant yn sicrhau fod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei roi yn ei le cyn i ddysgwyr ddechrau’r cwrs, a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a gyfyd yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ateb anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Diploma Level 1 mewn Cerddoriaeth; Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu.
Mae’n rhaid i chi lwyddo ym mhob un o’r chwe uned er mwyn cyflawni’r cymhwyster. Mae’r uned derfynol, prosiect cerddoriaeth, celfyddydau perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, yn caniatáu i chi arddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoir gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac mae’n penderfynu gradd y cymhwyster yn gyffredinol.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, yn cynnwys un Celf neu bwnc cysylltiedig â chelf a Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf).

Rhaid i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithdy mynediad hefyd, ac mae’n rhaid bod yn bresennol a’i gwblhau’r llwyddiannus.

Yn achos dysgwyr sy’n dymuno dilyn y cwrs Lefel 1 hwn ar ôl Sgiliau Sylfaen mae’n rhaid i chi fod wedi llwyddo i gael eich cymhwyster M3, gwneud cynnydd mewn mathemateg a Saesneg a chyrraedd eich holl dargedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.
Os ydych chi’n dymuno parhau a gwneud cynnydd gyda’ch astudiaethau, cewch astudio cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc tebyg megis Celfyddydau Perfformio neu Gerddoriaeth, a fydd hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?