main logo

Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf: Dylunio a'r Cyfryngau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00159
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn amser llawn.
Adran
Celf a Dylunio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyluniwyd y Diploma Lefel 1 mewn Celf, Dylunio a’r Cyfryngau i roi cyflwyniad i’r sector creadigol i chi, gan eich galluogi i wneud dewisiadau dilyniant gwybodus yn y dyfodol wrth ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a meithrin ystod o sgiliau ymarferol, cyfathrebu a datblygiad personol perthnasol.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer y rhai â diddordeb mewn celf, dylunio a’r cyfryngau neu bwnc cysylltiedig ac sy’n dymuno ymchwilio i ac ymestyn y diddordeb hwn trwy gyfrwng profiad dysgu dull trochi, amser llawn. Byddwch yn datblygu ac yn profi eich creadigrwydd mewn strwythur a fydd yn darparu sylfaen gadarn o ran sgiliau a gwybodaeth, wrth gyfoethogi hunan hyder ac yn datgelu’r galwadau a chyfleoedd gyrfa potensial yn y sector.

Bydd y cwrs yn caniatáu i chi ddatblygu eich creadigrwydd wrth ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflwyniad llwyddiannus i’r holl feysydd yn y Diwydiannau Creadigol, a bydd yn eich paratoi chi i symud ymlaen i Lefel 2.

Mae’r rhaglen astudio yn cynnwys amrywiaeth o unedau Celf a Chyfryngau a byddwch yn datblygu sgiliau trwy amrediad o weithgareddau. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn dau ddimensiwn (2D) a thri dimensiwn (3D), fel darluniadu o arsylwi, paentio, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, ffotograffeg a cherameg. Bydd cyfleoedd i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes a byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol a gefnogir gan ymweliadau addysgol.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn bwyslais craidd i’r holl ddysgwyr sy’n dilyn y rhaglen hon, gyda phob dysgwr yn cael y cyfle i ymgeisio am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU Mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Bugeiliol a fydd yn rhoi cymorth a chefnogaeth iddynt trwy gydol eu cyfnod yn dilyn y rhaglen. Byddant yn sicrhau fod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei roi yn ei le cyn i ddysgwyr ddechrau’r cwrs, a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a gyfyd yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ateb anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Diploma Lefel 1 mewn Celf: Dylunio a'r Cyfryngau.
Mae’n rhaid i chi lwyddo mewn saith uned er mwyn cyflawni’r cymhwyster. Mae’r uned derfynol, prosiect celf, dylunio a chyfryngau, yn caniatáu i chi arddangos yr holl ddysgu sydd wedi digwydd wrth gwblhau’r unedau eraill. Rhoir gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac mae’n penderfynu gradd y cymhwyster yn gyffredinol.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, yn cynnwys un Celf neu bwnc cysylltiedig â chelf a Saesneg Iaith / Cymraeg (Iaith Gyntaf).

Bydd yr holl ymgeiswyr yn cyflawni prosiect mynediad hefyd, ac mae’n rhaid ei gwblhau a llwyddo gyda’r prosiect hwn.

Yn achos dysgwyr sy’n dymuno dilyn y cwrs Lefel 1 hwn ar ôl Sgiliau Sylfaen mae’n rhaid i chi fod wedi llwyddo i gael eich cymhwyster M3, gwneud cynnydd mewn mathemateg a Saesneg a chyrraedd eich holl dargedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.
Os ydych chi’n dymuno parhau a gwneud cynnydd gyda’ch astudiaethau, cewch astudio cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc tebyg megis Celf a Dylunio neu’r Cyfryngau Creadigol, a fydd hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?