main logo

Lefel 1 Sgiliau Rhagarweiniol mewn Adeiladu - Paentio, Addurno, ac Plastro

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP99946
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Adran
Dysgu Sylfaen, Paentio ac Addurno, Plastro
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr llawn amser sydd eisiau dod yn Blastrwyr neu’n Baentwyr ac Addurnwyr yn y diwydiant Adeiladu. Bydd myfyrwyr yn mynychu sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o’r rhaglen er mwyn ennill gwybodaeth greiddiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol yn ein gweithdai.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder, gwybodaeth a sgiliau mewn Plastro, Gosod Leinin Sych, Paentio ac Addurno.


Mae unedau’n cynnwys -
● Iechyd, diogelwch a lles mewn diwydiannau adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
● Gweithio yn y maes adeiladu
● Ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y maes adeiladu
● Cyrchu offer yn y maes adeiladu
● Anheddau preswyl yn y maes adeiladu
● Sgiliau Plastro
● Sgiliau Gosod Leinin Sych
● Sgiliau Paentio
● Sgiliau Papuro Wal
● Sgiliau cyfathrebu a rheoli amser
● Cynllunio gyrfa

Bydd angen cwblhau ystod o asesiadau gan gynnwys -
- Asesiadau ymarferol yn y gweithdy
- Arholiadau ysgrifenedig
- Arholiadau amlddewis ar-lein
- Gwaith prosiect
- Trafodaethau
- Gwaith portffolio
- Tystiolaeth ar ffurf ffotograffau
- Trafodaethau wedi’u cofnodi
- Cyflwyniadau

Yn ogystal â hyn bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau naill ai Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd.

Bydd Anogwr Cynnydd yn cael ei bennu ar gyfer pob dysgwr. Bydd yr Anogwr Cynnydd yn helpu dysgwyr trwy gydol eu hamser ar y rhaglen ac yn cwblhau rhaglen rhan amser gyda nhw. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn er mwyn bodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd.

Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau a fydd yn eu helpu nhw I gyflawni eu cymhwyster a’u cynorthwyo I symud ymlaen mewn addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg/Saesneg (Iaith Gyntaf), a Gwyddoniaeth

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs.

Gellir symud ymlaen I un o’r canlynol:
– Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
– Twf Swyddi Cymru+ neu raglen brentisiaeth
– Gwaith
– Rhaglen yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?