main logo

Lefel 1 Gofal Iechyd, Cymdeithasol a Phlant

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01370
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Dysgu Sylfaen, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi ei greu er mwyn cefnogi unigolion wrth ddysgu a datblygu sgiliau allweddol, rhinweddau ac agweddau y mae cyflogwyr yn y diwydiant gofal ac addysg yn edrych amdanynt.

Byddwch yn astudio pynciau sy’n cynnwys:

● Cyflwyniad i weithio mewn gofal iechyd, gofal oedolion a gofal plant
● Deall datblygiad plant
● Datblygu sgiliau gofalu am blant ifanc

Yn ogystal â phynciau fel:

● Sgiliau, rhinweddau ac agweddau effeithiol ar gyfer dysgu a gwaith
● Dilyniant gyrfa
● Gweithio’n rhan o dîm

Bydd holl ddysgwyr y rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygiad llythrennedd a rhifedd gyda bob dysgwr yn cael cyfle i gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Sgiliau Cymhwyso Rhif neu ail sefyll TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Pennir Anogwr Bugeiliol i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eu lle cyn i ddysgwyr gychwyn a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Byddwch yn cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol.
Gallai hyn gynnwys tasgau fel prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, sy’n gorfod bod mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos y potensial i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn lleoliadau.

Yn achos pob dysgwr sy’n awyddus i symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae’n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster E3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Gall cwblhau cymhwyster sgiliau cyflogadwyedd lefel 1 wella’r cyfle i symud ymlaen at gwrs lefel uwch ac ennill cyflogaeth mewn unrhyw ddiwydiant. Yn y sector hwn gall arwain at swyddi fel ymarferydd meithrinfa, nyrs neu weithiwr gofal.

Hyfforddeiaeth, rhaglen brentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?