main logo

Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Kubota

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP51281
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs tair blynedd rhyddhau am gyfnod bloc. Byddwch yn y coleg am naw bloc yn ystod y tair blynedd. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc – cyfanswm o 12 wythnos – o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Adran
Peirianneg Amaethyddol
Dyddiad Dechrau
02 Dec 2024
Dyddiad Gorffen
26 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Cynllun Prentisiaeth Kubota hwn yn bartneriaeth rhwng Kubota, gweithgynhyrchydd peiriannau amaethyddol sy’n arwain y maes, a’r arbenigwyr addysg peirianneg amaethyddol, Coleg Cambria Llysfasi. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i gymeradwyo gan y diwydiant wedi’i ddylunio i ganiatáu i beirianwyr amaethyddol ifanc fynd ymlaen i swyddi mewn delwriaethau amaethyddol Kubota ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen i ddechrau gweithio yn niwydiant peirianneg peiriannau’r tir. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd, sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethau a phrosesau gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i drwsio injans, systemau cerbydau, systemau trydanol, systemau hydrolig, a phrofi systemau electronig. Yn ogystal â hynny, byddwch yn dysgu sut i drwsio systemau trawsyriant pŵer mecanyddol, trawsyriannau a chydwyr syncro-mesh, trawsyriannau symud pŵer, a thrawsyriannau hydrostatig neu hydro-fecanyddol (CVT). Byddwch hefyd yn dysgu sut i drwsio peiriannau aredig neu ddrilio, peiriannau chwistrellu, peiriannau cynaeafu cnydau porthi, a pheiriannau cynaeafu cnydau cyfunadwy neu wreiddgnydau.

Mae’r brentisiaeth Kubota yn gyfle I ennill cyflog tra rydych chi’n dysgu. Trwy gymryd rhan mewn prentisiaeth Kubota’n llwyddiannus byddwch yn ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant yr un pryd â datblygu sgiliau ymarferol gwych trwy gynllun a gefnogir gan y gweithgynhyrchydd ac yn ennill cyflog.

Addysgir y cwrs trwy sesiynau ymarferol yn bennaf yn ein gweithdy modern sy’n defnyddio’r offer diagnostig a’r peiriannau diweddaraf, gwaith maes a defnyddio tractorau, gweithgareddau ystafell ddosbarth, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys sesiynau theori, gwaith unigol a gwaith grŵp a thasgau ymarferol.

Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant cynnyrch y gweithgynhyrchydd yn y Kubota Training School.

Yn ychwanegol, byddwch yn cael cyfleoedd I wneud asesiadau allanol I ennill tystysgrifau cymhwysedd mewn Gyrru Tractor, Gyrru Peiriant Telesgopig, Weldio, Cerbyd pob tir, Tryc Fforch Godi, Olwynion Ffrithiol, Gofal Cwsmer, Gosodiadau, Aerdymheru a Thrin Oerydd.
Bydd yr asesu’n digwydd yn barhaus trwy gydol y cwrs, ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bach, arholiadau ac asesiadau synoptig.
5 TGAU gradd A* – C / 9-4 yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) a bod yn gweithio i ddeliwr Kubota fel peiriannydd gwasanaethu dan hyfforddiant.
Cyflogaeth mewn swyddi mewn delwriaethau Kubota ledled y Deyrnas Unedig.
Peiriannydd amaethyddol, Peiriannydd Gwasanaeth Maes, Technegydd Gweithdy, Marchnata a gwerthiannau.
Efallai bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer ynghlwm i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?