main logo

Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Gofal Tir Kubota

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01497
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 3 blynedd, gyda chyfnodau bloc rhyddhau o’r gwaith. Byddwch chi yn y coleg am naw bloc dros dair blynedd. Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc, yn dod i gyfanswm o ddeuddeg wythnos, i’w cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Adran
Peirianneg Amaethyddol, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Dec 2024
Dyddiad Gorffen
26 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Cynllun Prentisiaeth Diploma Kubota yn bartneriaeth rhwng arweinwyr Kubota gwneuthurwr peiriannau amaethyddol blaenllaw yn y byd, ac arbenigwyr addysg peirianneg amaethyddol, Coleg Cambria Llysfasi. Mae’r hyfforddiant, a gymeradwyir gan y diwydiant, wedi’i lunio i alluogi peirianwyr gofal tir ifanc i symud ymlaen i swyddi mewn delwriaethau gofal tir Kubota ledled y Deyrnas Unedig.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen yn y diwydiant peirianneg gofal tir. Byddwch chi’n astudio ystod eang o feysydd sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethau a phrosesau gweithdai. Byddwch chi’n dysgu sut i drwsio ystod o offer meysydd chwaraeon a gofal tir, gyriannau hydrostatig, systemau cerbydau, systemau trydanol a systemau hydrolig, systemau electronig prawf a systemau trawsyriant. Yn ogystal byddwch chi’n dysgu sut i gynnig y gwasanaethau i gwsmeriaid gorau i gleientiaid a chyflenwyr.

Mae Prentisiaeth Kubota yn gyfle i “ennill wrth i chi ddysgu”. Trwy gwblhau prentisiaeth Kubota yn llwyddiannus, byddwch yn cyflawni cymhwyster a gymeradwyir gan y diwydiant, ochr yn ochr â meithrin sgiliau ymarferol ardderchog trwy gynllun y mae gwneuthurwr yn ei gymeradwyo ac ennill cyflog.

Caiff y cwrs ei addysgu’n bennaf trwy sesiynau ymarferol yn ein gweithdy blaenllaw'r diwydiant gan ddefnyddio’r ystod ddiweddaraf o offer gofal tir. Caiff y ddarpariaeth yn y dosbarth ei gwella trwy amrywiaeth o deithiau, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch chi’n dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys sesiynau theori, gwaith unigol a gwaith grŵp, a thasgau ymarferol.

Mae'r cwrs yn cynnwys Hyfforddiant ar Gynnyrch gan y Gwneuthurwr gan ysgol hyfforddi Kubota. Hefyd, byddwch chi’n cael y cyfle i fynd i’r afael ag asesiadau allanol i ennill tystysgrifau cymhwysedd.

Cynhelir asesiadau yn gyson drwy gydol y cwrs ar ffurf aseiniadau, arsylwadau ymarferol, profion bychain, arholiadau ac asesiad synoptig.

5 TGAU ar radd A*-C gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) ac yn gweithio i ddelwriaeth Kubota fel peiriannydd gwasanaethau dan hyfforddiant. Gellir ystyried profiad blaenorol ar gyfer dysgwyr hŷn. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad.

Cyflogaeth mewn swyddi gyda delwriaethau Kubota ledled y Deyrnas Unedig.
Peiriannydd gofal tir, peiriannydd gwasanaethau’r maes, technegydd gweithdai, marchnata a gwerthu.

Nid oes ffi ar gyfer y cwrs, ond bydd angen yr offer a restrir isod arnoch chi. Efallai bydd costau ychwanegol ar gyfer rhai teithiau ac ymweliadau.
Am ffioedd llety, cysylltwch â kubota.training@cambria.ac.uk

Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?