main logo

Diploma NVQ Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch (Llwybrau Harddwch a Sba)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00134
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.

Tridiau’r wythnos yn y coleg, 9am tan 4.30pm

Bydd angen i ddysgwyr ddod i sesiynau gyda’r nos – byddwn yn rhannu’r dyddiadau.

Bydd myfyrwyr yn cael yr amserlenni yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Diploma Lefel 3 mewn Therapi Harddwch yn Iâl yn cynnig y cyfle i chi arbenigo yn eich llwybr gyrfa dewisol o Harddwch Cyffredinol neu Sba.

Mae enghraifft o rai o’r unedau sy’n gyffredin i’r ddau lwybr yn cynnwys:

• Anatomeg a ffisioleg
• Tylino'r corff
• Tylino'r pen Indiaidd
• Tylino carreg poeth
• Ymwybyddiaeth o Ganser y Croen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol nad ydynt yn ymwneud â gofal iechyd

Os dewiswch y Llwybr Harddwch Cyffredinol, byddwch yn astudio'r unedau canlynol:
Triniaethau Trydanol I'r Wyneb - Gan gynnwys Microdermabrasion

Fel arall, os dewiswch y Llwybr Sba, byddwch yn astudio'r unedau canlynol:
Triniaethau sawna, stêm a hydrotherapi
Lapio'r corff ac arnofio

(Sylwer bod yr unedau hyn yn agored I newid)

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith yn rheolaidd yn ein salon harddwch a sba o’r radd flaenaf wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol i’r cwrs hwn.

Mae disgwyliad cryf y dylai myfyrwyr astudio’n annibynnol rhwng y sesiynau sydd wedi’u hamserlennu.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Rhaid I bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch y bydd eich amserlen yn cynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau I chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod angen cit a gwisg er mwyn gallu astudio’r cwrs hwn.
Gwaith cwrs trwy asesiad parhaus
Arholiadau amlddewis
Asesiadau ymarferol
Cwblhau rhaglen maes dysgu Lefel 2 mewn Therapi Harddwch yn llwyddiannus.
Gallai llwybrau dilyniant ar gyfer dysgwyr fod yn:
Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig a Theatrig
Cyflogaeth – Sbas, Clinigau, Llongau Mordeithio, hunangyflogaeth a llawer rhagor
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?