Trosolwg o’r Cwrs

Caiff y cymhwyster hwn ei lywio gan gyflogwyr a safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer therapi harddwch ac mae'n cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio'n effeithiol fel ymarferydd croen cwbl fasnachol. Rhaid i ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol sy'n cynnwys:

● Egwyddorion ac ymarfer therapïau esthetig anfeddygol
● Ymgynghoriad uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
● Gofal croen uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
● Darparu triniaethau pilio croen

Drwy gydol y cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg perthnasol ac iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â therapïau esthetig anfeddygol lefel 4.

Byddant hefyd yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i ymgynghori â chleientiaid a'u dadansoddi wrth ddarparu triniaethau croen.
Er mwyn cael y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr lwyddo i

gyflawni’r asesiadau canlynol:
• Arholiad ymarferol wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n allanol
(50% o radd y cymhwyster)
• Arholiad theori wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n allanol
(50% o radd y cymhwyster)
• Aseiniad/prosiect wedi’i osod yn allanol ac wedi’i farcio’n fewnol
(dim cyfraniad i’r radd gyffredinol)
• Astudiaethau achos clinigol wedi’u gosod yn allanol ac wedi’u marcio’n fewnol
(dim cyfraniad i’r radd gyffredinol)

Mae’r cymhwyster wedi’i raddio fel a ganlyn:
• Methu/Llwyddo/Teilyngdod/Rhagoriaeth
Mae’n ofynnol i ddysgwyr feddu ar gymhwyster lefel 3 traddodiadol mewn therapi harddwch sy’n cynnwys unedau trydanol yr wyneb a’r corff, a lefel 3 mewn anatomi a ffisioleg. Bydd gan y dysgwyr o leiaf lefel 2 mewn uned wyneb a lefel 3 mewn anatomeg a ffisioleg.

Prif ddiben y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig anfeddygol datblygedig sy’n darparu technegau pilio croen. Yn ogystal, gall dysgwyr ddewis datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymwysterau arbenigol atodol ar lefel 4 mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

• Amledd radio
• Nodwyddo croen
• Uwchsain
£325 neu am ddim os yn gymwys ar gyfer cyllid PLA. I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn hŷn na 19 oed, yn gyflogedig ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn neu’n hunangyflogedig ac yn byw yng Nghymru.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?