main logo

Lefel 2 mewn Trin Gwallt a Chelfyddyd Colur

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01271
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd, sy’n dechrau ym mis Medi ac yn dod i ben mis Mehefin

Cwrs tridiau yn y coleg, 9am tan 4.30pm

Bydd adegau pan fydd angen i chi fynychu digwyddiadau gyda’r nos

Bydd dysgwyr yn cael eu hamserlenni yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw datblygu sgiliau ar gyfer gweithio yn y diwydiant colur y cyfryngau. Bydd dysgwyr sydd â diddordeb mewn Lefel 2 mewn Trin Gwallt a Cholur i’r Cyfryngau yn astudio agweddau theori o’r pwnc a’u cymhwyso yn y tasgau ymarferol. Datblygir sgiliau rhyngbersonol y myfyrwyr hefyd, a fydd yn eu helpu i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid. Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio o’u gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r dystiolaeth asesu. Mae’r rhaglen yn darparu’r sgiliau a’r rhinweddau personol sydd eu heisiau gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Mae rhai enghreifftiau o’r unedau byddwch yn eu hastudio yn cynnwys:

● Colur ar gyfer ffotograffiaeth
● Paentio’r corff a’r wyneb
● Triniaethau’r amrannau a’r aeliau
● Trin a steilio gwallt

Yn ogystal, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Rhaid I bob dysgwr gwblhau Lleoliad Gwaith

Sylwch efallai y bydd eich amserlen yn cynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau I chi yn ystod eich cyfnod ymsefydlu.

Sylwch fod gofyn am git a gwisg er mwyn gallu astudio’r cwrs hwn.
Bydd gwaith cwrs yn cynnwys asesu parhaus ac asesiadau ymarferol a theori
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 Therapi Harddwch yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Y llwybrau dilyniant I ddysgwyr fydd Diploma L3 mewn Effeithiau Arbennig Theatrig a Cholur y Cyfryngau neu I weithio yn y sector celf colur creadigol.

L2 mewn Trin Gwallt neu Dorri Gwallt Dynion neu L2 mewn Therapi Harddwch ac Ewinedd (ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dymuno arbenigo)

Mae cyflogaeth yn y sector yn amrywiol a gall gynnwys gweithio mewn ffilmiau, ffasiwn, teledu neu theatr.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?