main logo

Lefel 1 mewn TG

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00216
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau ymarferol drwy edrych ar sut mae TG yn cael ei ddefnyddio mewn diwydiant a masnach gan ddefnyddio ystod o gymwysiadau meddalwedd.

Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth o unedau.

Pedair Uned Orfodol: Bod yn Drefnus, Datblygu cynllun dilyniant personol, Gweithio gydag eraill ac Ymchwilio i bwnc.

Chwe Uned technolegau digidol: Datrys Problemau TG Technegol, Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol, Creu Taenlen i Ddatrys Problemau, Creu Gwefan, Creu Cynnyrch Digidol, Datblygu Graffigyn Animeiddiedig Digidol.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen gyda phob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Hyfforddwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau a bod unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen er mwyn eu helpu i lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i ddiwallu anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.
Byddwch yn cael eich asesu drwy arsylwadau, gwaith ymarferol a thasgau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, sy’n gorfod bod mewn Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Ar gyfer pob dysgwr sy’n awyddus i symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen – mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich cymhwyster E3, bod wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Dilyniant i’r lefel nesaf o ddysgu fel y rhai a gynigir mewn TG Lefel 2. Hyfforddeiaeth, Prentisiaeth neu gyflogaeth lawn amser.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?