main logo

Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00862
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 flwyddyn
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
23 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd myfyrwyr yn astudio egwyddorion Peirianneg, gweithio’n effeithiol a diogel mewn amgylcheddau peirianneg, egwyddorion cynnal a chadw a gosod, a chomisiynu. Mae nifer o unedau arbenigol, fel unedau mecanyddol, hydrolig a thrydanol, yn ategu’r rhaglen hon.

Mae hon yn rhaglen beirianneg amlddisgyblaeth sy’n cynnwys y sgiliau a gwybodaeth beirianyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i weithio ym maes peirianneg. Mae’n rhoi cymorth i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau prentisiaeth yn y diwydiant cynnal a chadw a chomisiynu peirianneg. Bydd myfyrwyr yn dysgu technegau peirianneg ar gyfer cynnal a chadw llinell gynhyrchu, diffodd ac adfer systemau peiriannau i sicrhau cynhyrchiant effeithlon.
Cyfuniad o waith aseiniad, tasgau ymarferol ac arholiadau atebion byr, mewnol ac allanol.
Rhaglen beirianneg lefel 2 gydnabyddedig, fel City and Guilds ac EAL Mecanyddol a Thrydanol, neu debyg. Dylai myfyrwyr fod ag o leiaf TGAU gradd C/4 mewn Saesneg Iaith/ Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.

Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau lefel 2 Peirianneg ac sy’n gweithio tuag at wella eu TGAU yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglen hon. Fodd bynnag, mae’n ofyniad gorfodol y bydd pob dysgwr yn gweithio tuag at gwblhau’r TGAU gyda gradd C/4 ac uwch.
Mae’n rhoi cyfle i’r rheiny sydd eisiau gweithio ym maes peirianneg, weithio mewn meysydd amlddisgyblaeth, fel mecanyddol, hydrolig, cynnal a chadw, trydanol, dylunio, gan gynnwys cynorthwyo gyda rhaglenni cynnal a chadw peirianneg y diwydiant cynhyrchu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?