main logo

Peirianneg Lefel 3 (Uwch)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01061
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser a gynhelir dros 5 diwrnod yr wythnos.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
23 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Peirianneg Uwch (Llwybr at Brentisiaeth) wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno cael Prentisiaeth Fodern mewn Peirianneg a dilyn gyrfa mewn Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol/Electronig, Peirianneg Awyrofod neu Beirianneg Gweithgynhyrchu, neu barhau â'u hastudiaethau i addysg uwch.

Yn ystod y cwrs byddwch yn cwblhau:

1. Diploma Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO)
· CAD
· Argraffu 3D
· Electroneg
· Sgiliau Ffitio â Llaw
· Iechyd a Diogelwch
· Gweithio’n Effeithlon ac Effeithiol
· Cyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol

2. Dyfarniad BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
· Mathemateg
· Lluniadu Peirianyddol
· Egwyddorion Trydanol ac Electronig
· Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
· Egwyddorion Mecanyddol
· Roboteg Ddiwydiannol

Byddwch hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd.

Gan ei bod yn rhaglen Uwch, mae ffocws penodol ar gyflogaeth drwy gydol y flwyddyn. Bydd myfyrwyr yn cael sesiynau cymorth i weithio gyda thiwtoriaid arbenigol i ddatblygu eu CV a'u sgiliau cyfweliad, yn ogystal â gweithio gyda'n Siop Swyddi fewnol i'w helpu i nodi a gwneud cais am swyddi prentisiaeth gweithredol gyda'n cwmnïau partner.

Mae'r rhaglen hefyd yn elwa o hyd at 5 wythnos o brofiad gwaith gydag un o'n cwmnïau Peirianneg partner. Bydd hyn yn rhoi blas i fyfyrwyr o sut y gallai eu gyrfa bosibl edrych a'r cyfle iddynt ddechrau rhwydweithio gyda chysylltiadau diwydiant. Cofiwch y bydd lleoliadau profiad gwaith yn aml yn digwydd yn ystod cyfnodau gwyliau arferol y coleg (e.e. hanner tymor mis Hydref; Pasg ac ati).

Er mwyn helpu i integreiddio ymhellach â'r diwydiant Peirianneg lleol, mae'r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflawni dyfarniad sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cadetiaid Diwydiannol. Mae'r dyfarniad hwn yn cynnwys grwpiau bach o ddysgwyr sy'n gweithio gyda mentoriaid diwydiant penodol i ddatblygu atebion i broblemau peirianyddol, gan arwain at seremoni 'raddio' lle gallant arddangos eu datrysiadau prosiect.
Mae asesu ar gyfer pob uned a modiwl o fewn y cwrs ar ffurf aseiniadau damcaniaethol ac ymarferol.
5 TGAU gradd A*-C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith 1af), Gwyddoniaeth a Mathemateg (Mathemateg Haen Uwch yn fuddiol).

Byddwn hefyd yn derbyn cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda TGAU mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith 1af) gradd A*-C.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
-Prentisiaethau Peirianneg / Gweithgynhyrchu.

– Mynd ymlaen i gwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 am flwyddyn arall o astudio, lle byddwch yn cwblhau 120 credyd arall o unedau BTEC. Mae enghreifftiau o unedau’n cynnwys Mathemateg Bellach, Egwyddorion Mecanyddol Pellach, Egwyddorion Trydanol/Electronig Pellach, Prosiect Peirianneg, Electroneg ac Astudiaethau Busnes Peirianneg, ymhlith eraill.

– Bydd cwblhau’r Diploma Estynedig yn cefnogi dilyniant tuag at fynd i Addysg Uwch lawn amser (Prifysgol).
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?