Tystysgrif L2 EAL mewn Technegau Gwella Busnes

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR -
Rhaglen ran-amser yw hon, sy’n cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl yn y gweithle. Mae 5 gweithdy dechreuol yn cael eu cyflwyno dros gyfnod byr o amser yn ymdrin â gwybodaeth, dealltwriaeth a chymhwyso technegau gwella busnes. Yn ystod y gweithdai hyn nodir amrywiaeth o brosiectau gwella a all gael effaith gadarnhaol ar fesurau Ansawdd, Cost a Chyflenwi ar gyfer y busnes. Bydd disgwyl i ddysgwyr gyfrannu at y rhain ac adfyfyrio arnynt.

Mae pynciau’r cwrs hwn yn cynnwys:
-Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion sefydliadol
-Cyfrannu at gyfathrebu’n effeithiol a gweithio’n effeithiol mewn tîm
-Cyfrannu at gymhwyso trefniadaeth gweithle
-Cyfrannu at gymhwyso technegau gwelliant parhaus (kaizen)
-Cyfrannu at ddatblygu rheolaeth weledol a safoni
-Cymhwyso dadansoddiad proses llif
-Cyfrannu at ddatrys problemau yn ymarferol
Nid oes unrhyw arholiadau na phrofion.
Mae mynychu sesiynau hyfforddi diwrnod llawn a rhyngweithio â chydweithwyr yn ofynnol. Cwblhau asesiadau’r unedau gan ddefnyddio manylion o welliannau prosiect a gafodd eu hamlinellu yn yr hyfforddiant.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Mae’r dyfarniad hwn yn ddelfrydol os ydych chi’n gweithio neu’n dymuno gweithio mewn amgylchedd gwella busnes.
Efallai bydd gennych chi ryw faint o wybodaeth a sgiliau sylfaenol yn y diwydiant. Efallai eich bod am gynyddu eich sgiliau a’ch gwybodaeth a’r prosesau dan sylw i wella eich rhagolygon gyrfa neu symud ymlaen i astudio ymhellach.
Yn ogystal â datblygu yn eich swydd bresennol, gall hyn eich galluogi i symud ymlaen i’r NVQ Lefel 2, 3 neu 4 mewn Technegau Gwella Busnes.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?