main logo

Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00249
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
23 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau mewn amrywiaeth o dechnegau Peirianneg.

Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau mewn mesuriadau a chyfrifiadau peirianneg ac iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r damcaniaethau a'r wybodaeth i chi sy'n sail i’r cymwyseddau ymarferol. Mae'r cwrs hwn yn dilyn y Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg; bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau 6 o’r unedau isod i’w gyflawni’n llawn.

City & Guilds 7682- 20:Unedau Ymarferol (Unedau Enghreifftiol)
Uned 201 Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchfyd Peirianneg
Uned 202 Cyflawni gweithgarwch Peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
Uned 203 Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
Uned 204 Cynhyrchu lluniadau peirianneg fecanyddol gan ddefnyddio system CAD
Uned 205 Cynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio technegau ffitio â llaw
Uned 211 Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer gweithrediadau turnio
Uned 219 Cynnal Dyfeisiau a Chyfarpar Mecanyddol
Uned 222 Cynhyrchu Cydrannau a Chydosodiadau Llenfetel
Uned 233 Weirio a Phrofi Cyfarpar a Chylchedau Trydanol

Meithrin sgiliau llythrennedd a rhifedd

Profiad gwaith cysylltiedig

Mae’r cwrs damcaniaethol ac ymarferol hwn yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen I gyflawni’r gwaith, gallu trefnu’r gwaith a chanfod ac atal problemau.

Bydd gofyn i’r myfyrwyr nad oes ganddynt gradd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg fynychu sesiynau I gefnogi hyn yn ogystal â’u rhaglen galwedigaethol.
Bydd y gwaith yn cael ei asesu drwy;

1. Aseiniadau ysgrifenedig byr
2. Arsylwadau ymarferol I wirio ansawdd cynnyrch mae myfyrwyr wedi’u gwneuthuro, eu gwneud a’u cynhyrchu.
4 TGAU gradd D/3 neu’n uwch gan gynnwys Mathemateg ac laith Saesneg / Cymraeg (laith 1af) neu gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Gall myfyrwyr fynd ymlaen i weithio a pharhau i astudio a chael eu rhyddhau am y dydd neu ymrwymo i Brentisiaeth Fodern wedi’i noddi gan gyflogwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Bydd y rhai sydd hefyd wedi llwyddo i gwblhau PEO Lefel 2 yn gallu yn symud ymlaen i raglen Lefel 3 e.e. BTEC Lefel 3 Gyfrannol a Diploma Estynedig neu’r cwrs Gosod Electro-Dechnegol.

Anogir dysgwyr I ail-eistedd GCSES, lle mae graddau’n is na C/4.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?