main logo

Lefel 2 Cymhorthwyr Nyrsio Anifeiliaid

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01444
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser, gyda thridiau’r wythnos yn y coleg a diwrnod yr wythnos mewn lleoliad profiad gwaith milfeddygfa
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
09 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg I chi o'r diwydiant gofal milfeddygol a bydd yn datblygu eich cymhwysedd ymarferol, gwybodaeth, profiad, gwasanaethau I gwsmeriaid a sgiliau manwerthu sy'n angenrheidiol I gael eich cyflogi yn y diwydiant. Byddwch yn helpu I ofalu am yr ystod eang o rywogaethau anifeiliaid yn y coleg.

Mae'r pynciau y byddwch chi'n eu hastudio yn cynnwys trin a gofalu am anifeiliaid yn yr amgylchedd milfeddygol, cynorthwyo gyda gofal yn yr amgylchedd milfeddygol a dyletswyddau gweinyddol yn yr amgylchedd gofal milfeddygol.

Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid ragorol yn rhoi cyfle I chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, moch, nadroedd, madfallod a chnofilod. Byddwch hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais I chi gyda’ch llwybr gyrfa dewisol. Bydd y dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy nifer o wahanol ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol ac mewn grwpiau. Bydd hyd at ddiwrnod yr wythnos yn waith ymarferol, yn ogystal â defnyddio ystod o dechnolegau dysgu modern.

Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r rhaglen, a byddwn yn cyd-weithio â chi I wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â rhoi cyfle I chi ailsefyll arholiadau Saesneg a Mathemateg TGAU.
Mae’r cwrs yn cael ei asesu trwy arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, tystiolaeth gan dystion ac astudiaethau achos. Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o asesiadau ac arholiadau ffug trwy gydol y rhaglen, yn ogystal ag asesiadau ymarfer anffurfiol i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Bydd angen I chi ennill profiad go iawn mewn amgylchedd gofal milfeddygol mewn milfeddygfa wedi’I chofrestru a chwblhau o leiaf diwrnod yr wythnos o brofiad gwaith. Mae’n hanfodol eich bod yn rhagweithiol wrth ddod o hyd I leoliad gwaith, a bod hyn wedi’I sicrhau cyn dechrau’r cwrs

Efallai bydd dysgu Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch yn cynnwys Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth
neu
Fod â Thystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid

Mae’n rhaid i chi fod wedi sicrhau lleoliad profiad gwaith mewn practis milfeddygol am 1 diwrnod yr wythnos drwy gydol y cwrs a chwblhau 1 wythnos o leoliad cyn dechrau’r cwrs ym mis Medi.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen i’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol, Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid, neu Brentisiaeth Dysgu yn y Gwaith Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid, yn amodol ar fodloni meini prawf.

Os ydych chi’n dymuno symud ymlaen at gymhwyster Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 a chofrestru fel Nyrs Filfeddygol dan hyfforddiant, bydd angen I chi fodloni’r meini prawf RCVS.

Efallai y bydd dysgwyr sy’n dymuno dod o hyd I waith yn gallu gweithio mewn clinigau milfeddygol, clinigau milfeddygol atgyfeirio neu ail farn, ysbytai milfeddygol, canolfannau achub anifeiliaid ac mewn nifer o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?