main logo

Mynediad i Ddiwydiannau Tir

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00847
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Peirianneg Amaethyddol, Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir, Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ychydig neu ddim cymwysterau o gwbl. Fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i fyfyrwyr gael sgiliau ymarferol rhagorol mewn amrywiaeth o feysydd tir gan gynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth, cadwraeth, sgiliau ystadau a pheirianneg. Bydd myfyrwyr yn datblygu llawer o sgiliau ymarferol megis bwydo, gwirio iechyd a symud anifeiliaid fferm, cynnal a chadw mannau cynefin, cynnal llwybrau troed, cynnal a chadw ardaloedd gwyrdd a chynnal a chadw cerbydau modur sylfaenol.


Mae’r pynciau sy’n cael eu hastudio yn cynnwys;
• Llety a Phorthiant Anifeiliaid Fferm
• Cyflwyniad i Anifeiliaid Fferm
• Planhigion a Bywyd Gwyllt
• Cynnal a Chadw Cerbydau Modur Sylfaenol
• Sgiliau Cadwraeth
• Sgiliau Garddwriaeth
• Sgiliau Ystadau
• Iechyd a Diogelwch
• Datblygu Perfformiad Personol

Mae'r cwrs yn cynnwys gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, gwaith ymarferol a sesiynau i helpu i ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Bydd eich sesiynau ymarferol yn ffurfio hanner eich gwaith coleg.

Rydym hefyd yn cynnig;
- Ymweliadau addysgol niferus drwy gydol y flwyddyn.
- Mynediad i siaradwyr gwadd ac arbenigwyr yn y diwydiant.
- Defnydd llawn o’r ffarm a’r stad ar y safle.

Ble fyddaf yn astudio?
Mae Llysfasi wedi'i leoli yng nghefn gwlad syfrdanol Gogledd Ddwyrain Cymru ger Rhuthun, sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Pa anifeiliaid fyddaf i’n eu hastudio yn Llysfasi?
Yn ystod eich astudiaethau, bydd gennych fynediad rheolaidd i'n fferm 970 erw, lle byddwch yn dysgu am reoli ein gwartheg godro a defaid iseldir a mynydd, a chymryd rhan mewn sgiliau stad ar y fferm a'r coetir.
Byddwch yn cael eich asesu mewn sawl ffordd wahanol sydd wedi’u cynllunio i ymestyn ac annog eich datblygiad:

• Gweithgareddau ymarferol wrth weithio o amgylch ein safle
• Cwestiynau gwybodaeth byr

Byddwch hefyd yn gweithio tuag at wella Llythrennedd a Rhifedd.
Nid oes unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Mae’n hanfodol fod gennych ddiddordeb cryf mewn gweithgareddau a dysgu.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Lefel 1 Gofal Anifeiliaid.
Lefel 1 Astudiaethau’r Tir

I symud ymlaen bydd angen I chi basio Mynediad 3 mewn Gofal Anifeiliaid ac Astudiaethau’r Tir, a Sgiliau Sylfaenol Mathemateg a Saesneg.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisgoedd ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?