main logo

Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Coed a Phren yn y Gwaith (Coetiroedd a Gwaith Coed Cyffredinol)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14067
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser mae’n ei gymryd I gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond rydym yn disgwyl y bydd ymgeiswyr angen tua 12 mis
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad, Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
30 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
30 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n gweithio mewn coedyddiaeth, yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, sydd wedi nodi bod angen ategu eu hyfforddiant a’u profiad a darparu tystiolaeth o’u cymhwysedd sydd ei angen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector coedyddiaeth.
Mae llwybrau'n cynnwys sefydlu coedwigaeth, cynnal a chadw a chynaeafu, masnachau coed gwyrdd, a choedyddiaeth.
Nod y cwrs yw rhoi cyfle i ddysgwyr ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn coedyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig, a’u galluogi i symud ymlaen i astudiaeth uwch. Yn ogystal â darparu amgylchedd dysgu ysgogol a chefnogol i ddysgwyr ddatblygu eu cyfraniad posibl at goedyddiaeth a diwydiannau cysylltiedig. A datblygu gwybodaeth greiddiol yn y maes pwnc, trwy hyrwyddo ac annog datblygiad technegau a gweithgareddau dysgu newydd.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 37 credyd.
Bydd hyn yn cynnwys 28 credyd o'r unedau gorfodol i'w cynnwys mewn meysydd fel, ond heb fod yn gyfyngedig i
● Reoli digwyddiadau llygredd lleol yn y diwydiannau amgylcheddol a diwydiannau'r tir
● Adnabod rhywogaethau coed a phlanhigion cysylltiedig
● Monitro a chynnal iechyd a diogelwch
● Cwympo a phrosesu coed bach
● Croestorri a stacio pren diamedr bach gan ddefnyddio llif gadwyn
● Cynnal a chadw llif gadwyn
● Diploma Lefel 2 NPTC mewn Coed a Phren yn y gwaith, asesiad annibynnol
Ynghyd ag o leiaf 9 credyd o unedau dewisol mewn meysydd fel, ond heb fod yn gyfyngedig i

● Blannu coed gyda llaw
● Gwneud gwaith diogelu a chynnal a chadw ôl-blannu nad yw'n gemegol
● Paratoi a gweithredu peiriannau i dorri coed
● Paratoi a chynnal safle gweithio diogel ar gyfer gweithrediadau coedyddiaeth o'r ddaear
● Gosod gwrych
● Gwarchod a chynnal a chadw coed ar gyfer coedlannau sydd newydd eu plannu
Cewch eich asesu trwy gyfres o weithgareddau ac aseiniadau. Bydd y rhain yn cael eu hasesu’n fewnol a’u safoni yn fewnol ac yn allanol.

Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Rhaid i ddysgwyr fod o leiaf 16 oed
Caiff dysgwyr addas eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gyflogedig ar hyn o bryd yn y maes dysgu hwn ac yn cael eich cefnogi’n llawn gan eich cyflogwr. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol yn y maes hwn i ddechrau.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn swyddi fel
● Gweithiwr coedwig
● Swyddog coedwig
● Tyfwr coed
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?