main logo

Paratoi ar gyfer Astudio a Datblygu Gyrfa

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP52316
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 1 Flwyddyn
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at unrhyw ddysgwr sy'n oedolyn a hoffai gael y cyfle i ymgymryd ag addysg, datblygu mwy o ragolygon cyflogaeth, gyrfa newydd efallai, ond sy'n teimlo nad oes ganddynt y cymwysterau i wneud hynny.

Mae'r cwrs hwn yn cyfuno datblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol ochr yn ochr â chwrs lefel 1 a gynlluniwyd i'ch helpu i ddatblygu eich gallu i astudio, ystyried pynciau newydd a chyflwyno cyfleoedd gyrfa newydd.

Bydd datblygu llythrennedd a rhifedd yn ffocws craidd i bob dysgwr ar y rhaglen, gyda phob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Bydd dysgwyr yn cael Hyfforddwr Bugeiliol a fydd yn eu cefnogi drwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Byddant yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY yn cael ei roi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ac y bydd unrhyw anghenion cymorth newydd a allai godi yn cael eu hymgorffori yn eu rhaglen i'w helpu i lwyddo. Mae'r cwrs yn cael ei gefnogi'n llawn i ddiwallu gwahaniaethau dysgu ac anghenion unigol.

Cyflwynir y rhaglen dros dri diwrnod mewn ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.
Byddwn yn asesu eich dysgu a’ch cyflawniad trwy gydol y cwrs, gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau. Bydd disgwyl i chi greu portffolio o dystiolaeth a fyddai’n gallu cynnwys tystiolaeth fel taflenni gwybodaeth a phosteri ar bynciau amrywiol, ac ysgrifennu traethodau ac adroddiadau byrion.
Nid oes angen unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond dylai ymgeiswyr gael o leiaf tair blynedd o sgiliau bywyd perthnasol a enillwyd ar ôl addysg orfodol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd y cyfleoedd i symud ymlaen yn gallu cynnwys:

● Mynediad i Addysg Uwch (Lefel 3)
● Rhaglenni galwedigaethol
● Cyfleoedd Cyflogadwyedd
● Prosiectau yn y gymuned
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?