main logo

Lefel 1 mewn Gwneuthuro a Weldio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00483
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Gwneuthuro a Weldio, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Yn ystod eich amser yn Gwneuthuro a Weldio byddwch yn dysgu popeth am gyflawni gweithrediadau peirianneg a sut i weithio’n ddiogel mewn amgylchedd gwaith, gan ddefnyddio offer fel peiriannau torri llenfetel, offer weldio MIG a MAG a llawer o offer a gymeradwywyd gan y diwydiant er mwyn datblygu eich sgiliau ymarferol.

Byddwch yn cwblhau unedau theori sy’n edrych yn fanylach ar yr holl brosesau sydd eu hangen ar gyfer gweithio yn y diwydiant Peirianneg. Byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau Llythrennedd a Rhifedd er mwyn eich paratoi ar gyfer gweithio ym maes Peirianneg a hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau yn barod ar gyfer y byd gwaith gyda sgiliau cyfweld, cyfarfod â chyflogwyr a pharatoi ar gyfer prentisiaethau.

Fel rhan o’r cwrs byddwch yn ennill 2 prif gymhwyster (gweler isod)
City and Guilds 2850-10: Theori
Tystysgrif mewn Peirianneg
Uned 101: Gweithio mewn Peirianneg
Uned 108: Gweithio gyda Llenfetelau
Uned 110: Cynnal Prosesau MIG
Tystysgrif NVQ 7682 City & Guilds mewn cynnal Gweithrediadau Peirianneg Ymarferol (Unedau Enghreifftiol)
Uned 201: Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg
Uned 102: Ymgymryd â gweithgarwch peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
Uned 103: Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth peirianneg
Uned 112: Cynnal gweithgareddau torri, ffurfio a chyfosod llenfetel
Uned 117: Defnyddio Offer Weldio MIG neu MAG Lled Awtomatig
Mae’r cwrs yn gofyn am asesiad parhaus o aseiniadau coleg a fydd yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio i ddiwallu anghenion y corff dyfarnu.

Yn ogystal â hynny, bydd arholiadau wedi’u gosod a’u marcio’n allanol gan City & Guilds yn cael eu trefnu ar gyfer cyfnodau allweddol trwy gydol y cwrs.
4 TGAU gradd E/2 neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg, Cymraeg (iaith 1af) / Saesneg, ar gyfer y rhaglen hon. Neu fod wedi cwblhau cymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus.

I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o Sgiliau Sylfaen neu Fynediad – mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni cymhwyster M3, symud ymlaen yn eich sgiliau Mathemateg a Saesneg, a chyflawni pob targed yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Erbyn hyn mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant Gwneuthuro a Weldio yn gweld caffael Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs), Sgiliau Hanfodol, tystysgrifau City and Guilds fel nodwedd hanfodol o’u rhaglenni hyfforddi sgiliau.

Gall cyfleoedd fod ar gael i gael cyflogaeth dan hyfforddiant yn unrhyw un o’r disgyblaethau crefft canlynol:
– Gwneuthuro Llenfetel
– Weldio
– Gosod pibellau
– Gwaith Adeiladu Dur

Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus o astudio, gall dysgwyr symud ymlaen i Raglen lefel 2 mewn Gwneuthuro a Weldio neu fel Prentis Sylfaen cyflogedig.
Gall dysgwyr sy’n cael gwaith hefyd, yn dibynnu ar yr amodau a gynigir gan eu cyflogwyr, gael y cyfle i symud ymlaen i Lefel 3 mewn Gwneuthuro a Weldio yn y dyfodol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?