main logo

Peirianneg Lefel 3 (Uwch)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01405
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 blwyddyn llawn amser (5 diwrnod yr wythnos)
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i ennill sgiliau mewn meysydd Peirianneg amrywiol.
Hefyd byddwch yn ennill sgiliau mewn mesuriadau a chyfrifiadau peirianneg ac iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r theori a’r wybodaeth i chi sy’n tanseilio’r cymwyseddau ymarferol. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 BTEC a’r Diploma Lefel 2 City and Guilds mewn Peirianneg; bydd angen i’r holl fyfyrwyr gwblhau’r unedau canlynol er mwyn cyflawni’n llawn.

Lefel 3 BTEC

Uned 01: Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
Uned 02: Cyfathrebiadau ar gyfer Technegwyr Peirianneg
Uned 03: Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg
Uned 07: Priodweddau a Chymwysiadau Deunyddiau Peirianyddol
Uned 08: Egwyddorion Mecanyddol Systemau Peirianneg
Uned 56: Egwyddorion Trydanol ac Electronig mewn Peirianneg

Tystysgrif/Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg (2850-20)
(Unedau Enghreifftiol)

7682-201 Gweithio'n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
7682-202 Cyflawni gweithgareddau peirianneg yn effeithlon ac effeithiol
7682-203 Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol
7682-204 Cynhyrchu Lluniadau Peirianneg Fecanyddol gan ddefnyddio System CAD
7682-215 Paratoi a Defnyddio Peiriannau Troi CNC
7682-236 Cydosod a phrofi cylchedau electronig

Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd

Profiad yn ymwneud â gwaith
Mae'r cwrs ymarferol a theori hwn yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud y swydd, y gallu i drefnu gwaith ac adnabod ac atal problemau.
Amrywiaeth o asesiadau, profion, tasgau ymarferol, a chwestiynau tystiolaeth o’r wybodaeth graidd.

Bydd Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu’n barhaus trwy gydol y cwrs.
5 TGAU gradd A*-C – 9-4 yn cynnwys Mathemateg Haen uwch (B/6 yn ddelfrydol), Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf)

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs, mae’n rhaid i ddysgwyr fod rhwng 16 – 24 oed ar 31 Awst

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gallai arwain at gael mynediad at gwrs lefel uwch.
Mae’r cwrs hwn yn helpu dysgwyr i ennill unedau gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol sy’n eu helpu i gael prentisiaethau neu barhau ar raglen yr 2il flwyddyn ac yn ddiweddarach yn y brifysgol.
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?