main logo

Cymdeithaseg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00044
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu ym mlwyddyn gyntaf yr astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn ail flwyddyn yr astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae cymdeithaseg yn bwnc poblogaidd a difyr oherwydd gall myfyrwyr ei weld yn uniongyrchol berthnasol i’w bywydau nhw, ac yn borth at lawer o yrfaoedd proffesiynol diddorol. Mae gwersi’n cynnwys ystod eang o ddulliau addysgu, ond yn fwyaf poblogaidd mae’r trafodaethau bywiog gall y pwnc hwn eu sbarduno. Anogir myfyrwyr i ddadansoddi, asesu a gwerthuso ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan roi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy iddynt. Anogir dysgu annibynnol, a chynorthwyir pob myfyriwr i feithrin dyheadau i wneud y gorau o’u potensial. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am y pwnc, ond mae’n fantais petai gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes a chyda ymwybyddiaeth ohonynt.

Mae’r cwrs Cymdeithaseg Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC.
Mae Cymdeithaseg yn defnyddio theorïau a chysyniadau i archwilio materion a themâu fel:

UNED 1 UG: MAGU DIWYLLIANT (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud).
Adran A – Un cwestiwn strwythuredig ar gysyniadau a phrosesau allweddol trosglwyddiad diwylliannol, cymdeithasoli a chaffael hunaniaeth.
Adran B – Teulu, gan gynnwys cwestiwn gorfodol a dewis rhwng dau gwestiwn traethawd.

UNED 2 UG: DEALL CYMDEITHAS A DULLIAU YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr).
Adran A – Dulliau Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Deall Cymdeithas: Addysg

UNED 3 SAFON UWCH: GRYM A RHEOLI (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr.)
Mae cwestiynau’r adran hon yn trin thema Troseddau/Gwyriad.

UNED 4 SAFON UWCH: ANGHYDRADDOLDEB CYMDEITHASOL A DULLIAU CYMHWYSOL YMCHWILIO CYMDEITHASEGOL (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 15 munud).
Adran A – Dulliau Cymhwysol Ymchwilio Cymdeithasegol.
Adran B – Anghydraddoldeb Cymdeithasol. Mae cwestiynau’r adran hon ar thema gwahaniaethu a haenau cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn un trwm, sy’n gofyn am sgiliau llythrennedd ar gyfer traethodau, a sgiliau dadansoddi a gwerthuso ar gyfer ymchwilio astudiaethau a thestunau methodolegol.
Bydd asesiadau mewnol yn defnyddio ystod o ddulliau i alluogi myfyrwyr i weld eu cynnydd yn glir a gweithredu er mwyn gwella. Cynhelir ffug arholiadau mewnol ym mis Ionawr/Chwefror. Cynhelir arholiadau allanol ym mis Mai (ar gyfer UG) a mis Mehefin (ar gyfer Safon Uwch).
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Derbynnir Cymdeithaseg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i bob sefydliad Addysg Uwch, ac mae cyflogwyr ym mhob proffesiwn yn gweld gwerth mawr i ymgeiswyr â chymwysterau Cymdeithaseg, oherwydd yr ystod hyblyg o sgiliau mae’r myfyrwyr wedi eu dysgu.

Mae rhai o’n myfyrwyr mwyaf llwyddiannus wedi mynd i astudio yn y prifysgolion gorau megis prifysgolion grŵp Russell, Rhydychen a Chaergrawnt, ac i ddilyn gyrfaoedd megis Addysgu mewn Prifysgolion, Newyddiaduraeth, Meddygaeth, Gwaith Cymdeithasol, yr Heddlu a’r Gyfraith.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?