main logo

Daearyddiaeth - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00037
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis Daearyddiaeth oherwydd y cwmpas y mae'n ei ddarparu ar gyfer astudio ystod eang o themâu a materion cyfredol, y mewnwelediadau pwysig mae'n ei gynnig ar gyfer deall ein byd cyfoes, a'r cyfle i roi’r wybodaeth hon ar waith drwy waith maes. Ystyrir Daearyddiaeth fel "pwnc hwyluso" ar gyfer mynediad i brifysgol ac mae ganddo lefel anhawster sy'n gysylltiedig â hyn. Mae'r cwrs yn adeiladu ar bynciau TGAU Daearyddiaeth ac mae'n cynnwys sgiliau ysgrifennu traethodau, dadansoddi data, dehongli mapiau, technoleg gwybodaeth, gwaith maes ac ymchwil personol. Ein nod yw rhoi’r addysg safon orau i fyfyrwyr er mwyn iddynt feithrin ystod eang o sgiliau, a’u paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil a llwyddiannus. Rydym yn ceisio cyflawni hyn mewn adran ysgogol, gefnogol, a chyfeillgar.

Uwch Gyfrannol (UG)

Uned 1: Tirweddau Newidiol
Adran A: Tirweddau Arfordirol
Adran B: Peryglon Tectonig

Uned 2: Lleoedd Newidiol
Adran A: Lleoedd Newidiol
Adran B: Ymchwiliad Gwaith Maes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Dynol

Safon Uwch

Uned 3: Systemau Byd-eang a Rheolaeth Fyd-eang

Adran A: Systemau Byd-eang - Cylchredau Dŵr a Charbon:

Adran B: Rheolaeth Fyd-eang: Newid a Sialensiau - Prosesau a phatrymau mudo byd-eang a dulliau byd-eang o reoli cefnforoedd y Ddaear:

Adran C: Sialensiau’r 21ain Ganrif

Uned 4: Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth
Adran A: Peryglon Tectonig
Adran B: Themâu Cyfoes mewn Daearyddiaeth – Twf a Sialens Economaidd: Tsieina a Sialensiau a Dilemâu Egni

Dwy thema ddewisol o blith pedair:
• Ecosystemau • Twf a Sialens Economaidd: India neu China neu Ddatblygiad yn Affrica Is-Sahara
• Sialensiau a Dilemâu Egni • Tywydd a Hinsawdd
Dau gwestiwn traethawd un ar bob un o’r themâu

Uned 5: Ymchwiliad Annibynnol
Asesiad di-arholiad: 3000 – 4000 gair wedi’i seilio ar gasglu data cynradd a gwybodaeth eilaidd


Mae ymweliadau maes yn rhan orfodol o’r cwrs ac yn sail i’r holl bynciau fel gofyniad ar gyfer y gwaith cwrs sy'n ofynnol gan y fanyleb newydd. Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio, casglu data, dadansoddi a gwerthuso data y byddant yn ei gasglu’n annibynnol.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu trwy gydol y flwyddyn, gyda ffug arholiadau mewnol yn ystod y ddwy flynedd. Cynhelir arholiadau allanol ar ddiwedd y cwrs UG ym Mai / Mehefin. Mae hyn yn 40% o gyfanswm y cymhwyster Safon Uwch.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg, yn ogystal â bodloni’r meini prawf canlynol:

– TGAU Daearyddiaeth gradd C/4 neu uwch

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Daearyddiaeth Safon Uwch yn cael ei ystyried yn “bwnc hwyluso”, sy’n golygu ei fod yn cael ei dderbyn fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig i gael mynediad i bob sefydliad addysg uwch gan gynnwys Prifysgolion Grŵp Russell. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth uchel ar ymgeiswyr gyda chymwysterau Daearyddiaeth, oherwydd yr ystod o sgiliau amlbwrpas gallant eu cynnig.

Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd cysylltiedig fel samplo a monitro amgylcheddol, Cynllunio Gwlad a Thref, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr cymdeithasol, gwasanaeth sifil, rheolwr personél, athro/athrawes, swyddog yr heddlu.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?