main logo

Llenyddiaeth Saesneg - Lefel A

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA00063
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch yn ychwanegu at ddealltwriaeth dysgwyr o sut mae creu ystyr mewn testunau llenyddol, a meithrin y gallu i ymateb i destunau llenyddol drwy waith trafod a gwaith ysgrifenedig.

Bydd myfyrwyr yn astudio barddoniaeth, rhyddiaith a drama amrywiol gyfnodau. Bydd elfen o ddarllen ehangach, a bydd myfyrwyr yn dysgu am eirfa dechnegol soffistigedig llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn archwilio nifer o ddehongliadau o destunau, a meithrin dealltwriaeth o gyd-destunau sy’n berthnasol i’r testunau hynny.

Lefel UG
Arholiad Uned 1 (20%) – Rhyddiaith a Drama:
Adran A: Ffuglen cyn 1900
Adran B: Drama

Arholiad Uned 2:

Arholiad Uned 2 (20%) - Barddoniaeth
Adran A: Archwilio barddoniaeth yn feirniadol
Adran B: Cymharu barddoniaeth

Lefel Safon Uwch
Arholiad Uned 3 (20%) – Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth nad ydy’r myfyrwyr wedi’i gweld
Arholiad Uned 4 (20%) - Shakespeare
Gwaith Cwrs Uned 5 (20%) – Astudio Rhyddiaith
Bydd ffug arholiad a bydd asesiadau rheolaidd yn cael eu gwneud trwy gydol y cwrs.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith gyntaf a Mathemateg.

Sylwer: Ni ellir ei gymryd ar y cyd ag Iaith a Llenyddiaeth Saesneg UG/Safon Uwch ar y cyd.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi chi’n drylwyr ar gyfer nifer o gyrsiau yn y Dyniaethau mewn prifysgolion. Gall hyn gynnwys Llenyddiaeth, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfunol, Ieithyddiaeth, Newyddiaduriaeth ac Addysg. Mae Llenyddiaeth Safon Uwch yn fantais ar gyfer unrhyw yrfa lle bydd angen i chi fynegi eich hun yn effeithiol a meddwl yn ddadansoddol. Mae Llenyddiaeth Saesneg yn gwrs Safon Uwch hwyluso, i’ch helpu chi os ydych chi’n dymuno gwneud cais am gwrs mewn un o brifysgolion grŵp Russell.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig I gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?